Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cyfnod y refferendwm

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Gwnaed Gorchymyn y Refferendwm gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ddoe. Mae cymeradwyo’r Gorchymyn hwn yn derfynol yn golygu y cynhelir y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ar gyfer y dyfodol ar 3 Mawrth 2011.

 

Amlinellir y cyfyngiadau statudol ar gyhoeddusrwydd y llywodraeth ynghylch refferenda yn adran 125 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Bydd y cyfyngiadau statudol hyn yn gymwys am 28 diwrnod cyn y bleidlais. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi cytuno gyda’r Comisiwn Etholiadol na fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgymryd ag unrhyw ymgyrch gyhoeddusrwydd ynghylch y refferendwm. Bydd hyn yn gymwys o heddiw ymlaen, hyd at a chan gynnwys y diwrnod pleidleisio. Y pleidiau gwleidyddol, mudiadau eraill ac unigolion fydd yn gwneud y dadleuon o blaid ac yn erbyn yn ystod yr ymgyrch.