Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Arfaethedig Mesur Addysg (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Dyma roi gwybod i'r Aelodau y byddaf yn ysgrifennu'n anffurfiol at y prif randdeiliaid, yn sgil cyhoeddi yn Natganiad Prif Weinidog Cymru ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2010/11 ar 13 Gorffennaf 2010 fod Mesur Cynulliad ar Addysg yn cael ei gynnwys, er mwyn amlinellu fy nghynigion ar gyfer Mesur Addysg (Cymru) a gwahodd eu sylwadau cychwynnol.  

Fy mwriad ar hyn o bryd yw mai prif ddiben y ddeddfwriaeth hon fydd helpu'r Awdurdodau Lleol, Ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach i gydweithio’n fwy â'i gilydd, gan sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu i ddysgwyr a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon.  Rwy'n cynnig gwneud hyn drwy greu deddfwriaeth i alluogi a gorfodi cydweithio ar draws y sector.

Yn ogystal, rwy'n cynnig creu deddfwriaeth i godi safonau ym maes llywodraethu ysgolion drwy gynyddu gallu llywodraethwyr a Chlercod drwy gymorth gwell a hyfforddiant o ansawdd da.

Byddaf hefyd yn gwahodd sylwadau ar gynnig i atal cynnydd yn nifer yr ysgolion sefydledig. Mae pob un o'r ysgolion hyn yn gweinyddu eu derbyniadau eu hunain, gan ychwanegu at gymhlethdod tasg yr awdurdodau lleol o gynllunio a darparu lleoedd ysgolion. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu atal ysgolion rhag newid categori i fod yn ysgolion sefydliedig ac unrhyw ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu sefydlu. Dylai hyn gadw'r sefyllfa fel y mae hi o ran nifer yr awdurdodau derbyn, er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cynllunio lleoedd ysgolion yn strategol cyn belled â phosibl.

Yn olaf, rwyf am i randdeiliaid ystyried dull llai biwrocrataidd o ddarparu addysg i ddisgyblion sydd â datganiad Anghenion Addysgol Arbennig mewn ysgol annibynnol sydd heb ei chymeradwyo. I’r diben hwn, rwy'n awgrymu ein bod yn diddymu adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn sicrhau mai Awdurdodau Lleol sydd â’r ddyletswydd o ofalu bod darpariaeth briodol ac nad yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo eu penderfyniadau.