Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Provisional Local Government Revenue Settlement 2011-12

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Rwyf yn cyhoeddi heddiw fy nghynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru ar gyfer 2011-12. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro y cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarperir trwy gyfrwng Grant Cynnal Refeniw (RSG) y gall pob awdurdod lleol ddisgwyl ei gael ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod (tabl A sydd ynghlwm). Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2012-13 a 2013-14.

 

Mae'r dyraniadau mewn perthynas â 2012-13 a 2013-14 yn destun diwygio yng ngoleuni'r sylfaen drethi fwy cyfoes a data perthnasol arall. Hefyd, nid ydynt yn adlewyrchu unrhyw trefniant ariannu gwaelodol. Rwyf yn ffyddiog, fodd bynnag, bod y dyraniadau’n rhoi sail gadarn iawn i awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Mae'r setliad yn heriol. Yn fy amryw drafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol yn y misoedd yn arwain at Adolygiad Gwariant y DU fe ddywedais yn glir y byddai'n heriol. Mae'r pecyn rwy’n ei gynnig yn un heriol oherwydd y toriadau mawr sydd wedi’u gorfodi ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae’n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru o amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol sydd, drwyddi draw, yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, ac mae hyn yn fargen deg yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol.

 

Mae'r rhagdybiaethau trwyadl iawn ar wariant cyhoeddus y defnyddiodd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cynllunio cyn yr Adolygiad Gwariant – rhagdybiaethau yr ydym yn eu rhannu gyda Llywodraeth Leol – yn arwain at broses gyllidebu â llawer mwy o ffocws a blaenoriaeth (er y bydd yn dal yn anodd) gan awdurdodau lleol.

 

Rwyf yn bwriadu gosod Grant Cynnal Refeniw (RSG) ar gyfer 2011-12 o £4.007 biliwn, sef gostyngiad arian parod o 1.1%. Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau 1.4% yw’r gostyngiad. Fy nyraniadau Grant Cynnal Refeniw arfaethedig ar gyfer 2012-13 a 2013-14 yw £ 4.017 biliwn a £ 4.069 biliwn, cynnydd o 0.2% a 1.3% yn y drefn honno. Effaith gyfansymiol hyn yw fy mod yn fras wedi gallu cynyddu ychydig ar gyllid arian parod awdurdodau arian lleol uwchlaw lefelau 2010-11 dros gyfnod o dair blynedd cyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r sefyllfa yn Lloegr lle mae gostyngiad o 2.3% ar sail tebyg am debyg yn y cynlluniau cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol a nodir yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

 

Diogelwch ar gyfer Ysgolion

 

Yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog i ddiogelu ysgolion er mwyn sicrhau y cyflawnir y canlyniadau gorau i blant Cymru, mae’r Grant Cynnal Refeniw yn cynnwys yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau diogelwch o 1% uwchlaw’r newid yng ngrant bloc y Cynulliad bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i ymrwymiad i gynyddu'r cyllid ar gyfer addysg o fewn y setliad gan £61 miliwn dros y cyfnod o dair blynedd er mwyn sicrhau y cyflawnir y canlyniadau gorau i blant Cymru. Gan gydnabod yr angen i leihau biwrocratiaeth, mae trefniadau monitro wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol. Maent yn syml a thryloyw gan ganolbwyntio ar gyllidebau ysgolion, a byddant yn sicrhau bod modd dangos y gellir cyflawni'r ymrwymiad hwn, gan adlewyrchu amgylchiadau lleol.

 

Amddiffyn Pobl Agored i Niwed a Delio â Phwysau.

 

Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi bod darpariaeth hefyd o fewn y Setliad i anrhydeddu'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u rhoi i amddiffyn pobl agored i newid yn ein cymdeithas yn ystod y cyfnod arbennig o anodd hwn.

 

Mae ein gwaith ar y cyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar sefydlu a dadansoddi'r pwysau ar wasanaethau allweddol a'r risgiau wedi nodi gwasanaethau cymdeithasol fel maes allweddol. Nodwyd y costau cynyddol, ac yn arbennig pwysau demograffig yn sgil galw sy’n cael effaith gynyddol ar ddarparu gwasanaethau, fel maes pryder allweddol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod y bydd hyn yn peri pryder a bydd y diogelwch a gynigir drwy gyfrwng y setliad yn rhoi cynnydd o £35 miliwn drwy gydol cyllideb Llywodraeth y Cynulliad i alluogi Llywodraeth Leol i ddelio â'r pwysau y mae’n eu hwynebu ar y gwasanaethau hanfodol hyn i blant a phobl hŷn.

 

Yn fwy penodol, mae’r setliad yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol i ariannu’r pecyn gwella ‘Camau Cyntaf’ er mwyn bwrw ymlaen â Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 i roi cyfundrefn decach o godi ffioedd am wasanaethau gofal preswyl.

 

Grant heb ei neilltuo yw’r Grant Cynnal Refeniw ac ynghyd â gwariant addysg a gwasanaethau cymdeithasol, mae’n cyfrif am oddeutu dwy ran o dair o wariant grant cysylltiedig. Yn y cyfnod eithriadol hwn, rwyf yn llwyr gydnabod y bydd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau eraill y mae Llywodraeth Leol yn eu darparu ond nid oedd hon erioed am fod yn broses hawdd. Mae'r defnydd doeth o ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys defnyddio ffrydiau incwm o ffioedd a thaliadau, yn opsiynau sydd ar gael i awdurdodau i leddfu'r pwysau.

 

 

Arloesi wrth Ddarparu  Gwasanaethau.

 

Ond yr allwedd gwirioneddol i reoli'r pwysau yw trwy newid mawr yn y ffordd y byddwn yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd o ran cynllunio a darparu gwasanaethau mewn ffyrdd mwy cost effeithiol ac arloesol. Mae wedi bod yn galonogol clywed y dystiolaeth am fomentwm cynyddol yn y cydweithio traws-wasanaeth a thraws-awdurdod drwy broses yr Is-grŵp Gwariant ac rwyf hefyd wedi bod yn dyst i hyn yn fy ymweliadau ag awdurdodau lleol drwy gydol y flwyddyn. Rwyf hefyd yn croesawu yr ymrwymiad cryf gan Lywodraeth Leol i’r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi rhaglen o ran arwain ar 6 o'r 7 ffrwd waith.

 

Serch hynny mae angen i awdurdodau lleol fod yn fwy uchelgeisiol o ran graddau a chyflymder y newid os ydynt am wynebu’r heriau ariannol sydd gerbron. Er mwyn helpu gyda hyn, rwyf wedi comisiynu Adolygiad annibynnol i ystyried y ffordd orau o drefnu’r ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru; pa wasanaethau sy’n cael eu darparu’n fwyaf effeithlon ac effeithiol yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Rwyf wedi gofyn i weld canfyddiadau cychwynnol ddechrau’r Flwyddyn Newydd

 

Effaith Cydraddoldeb.

 

Fel y Gweinidog dros Gydraddoldeb, rwyf wedi bod yn arbennig o ymwybodol o'r angen i ystyried goblygiadau fy mhenderfyniadau cyllidebol ar gydraddoldeb, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r Grant Cynnal Refeniw. Rwyf o'r farn y bydd y setliad yn diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed ac na fydd yn cael effaith anghyfrannol ar grwpiau gwarchod at ddibenion deddfwriaeth gydraddoldeb. Wrth ysgrifennu at awdurdodau lleol unigol heddiw yn nodi manylion y setliad rwyf wedi gofyn iddynt ystyried yn yr un modd effaith bosibl eu penderfyniadau cyllidebol yng nghyd-destun eu dyletswyddau statudol o dan ddeddfwriaeth gydraddoldeb.

 

 

Cyllid Gwaelodol.

 

Mae'r Setliad ar gyfer 2011-12 yn golygu bod pob awdurdod lleol heblaw un yn wynebu gostyngiad yn eu dyraniad grant. Rwyf felly’n cynnig cadw arian gwaelodol a fydd yn diogelu pob awdurdod rhag gostyngiad grant o fwy na 1.7% yn 2011-12. Byddaf yn ystyried ymhellach yr angen parhaus am arian gwaelodol ym mlynyddoedd 2 a 3, ond fy mwriad fydd dirwyn i ben y trefniadau ariannu gwaelodol cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd ag eleni, ni fydd unrhyw arian newydd ar gyfer arian gwaelodol. Bydd angen i hyn ariannu’i hun.

 

Y Dreth Gyngor

 

Fel rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynigion i ddigolledu awdurdodau lleol yn Lloegr sy'n penderfynu rhewi'r dreth gyngor ar gyfer 2011-12, gyda chyllid grant penodol sy'n cyfateb i gynnydd o 2.5% yn y dreth. Mae'n amlwg o'r Adolygiad Gwariant bod y £700m y flwyddyn yr amcangyfrifir y byddai cynllun o'r fath yn ei gostio yn cael ei frigdorri o'r arian a ddarperir drwy'r Grant Cynnal Refeniw i ariannu gwasanaethau craidd. Nid oes unrhyw arian ychwanegol.

 

Byddai brigdorri cyfatebol yng Nghymru yn dod i oddeutu £32m. Byddai brigdorri’r cyllid hwn mewn modd tebyg i Loegr yn golygu gostyngiad yn setliad llywodraeth leol o 2.2% yn 2011-12, yn hytrach na’r 1.4% rwy’n ei gynnig. Rwy’n dosbarthu’r gronfa Grant Cynnal Refeniw gyfan er budd pob awdurdod lleol a’u dinasyddion yng Nghymru. Bydd darparu’r cyllid yn y setliad yn galluogi cynghorau i rewi’r dreth gyngor os ydynt am wneud hynny, ar yr amod y gallant gysoni hyn â’r angen i gynnal gwasanaethau a heb amharu ar y diogelwch rydym yn ei roi i gyllid ysgolion a gofal cymdeithasol. Nhw sydd â’r dewis. Bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol gyfiawnhau’u penderfyniad ar y mater hwn i’w dinasyddion.

 

Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol fod yn fanwl iawn wrth ystyried y cydbwysedd rhwng yr angen i gynnal gwasanaethau allweddol er budd eu dinasyddion a'r angen i gyfyngu ar unrhyw bwysau ychwanegol ar aelwydydd sydd dan bwysau.

 

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rwy’n barod i ddefnyddio'r pwerau capio sydd gan Weinidogion Cymru i gyfyngu unrhyw gynnydd sydd yn fy marn i’n afresymol o dan yr holl amgylchiadau.

 

Cyllid Cyfalaf

 

Yn gyffredinol, o ganlyniad i’r setliad gan Lywodraeth y DU, rhagwelir gostyngiad o 14% mewn cyllid cyfalaf yn 2011-12. Er bod hyn yn heriol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi osgoi gostyngiad mwy sylweddol mewn cyllid cyfalaf gan fy mod wedi gallu diogelu grant y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol o fewn y portffolio  Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Y ddarpariaeth ar gyfer 2011-12 fydd £20 miliwn, sef yr un lefel ag ar gyfer 2010-11.

 

Grantiau Penodol.

 

Mae ffigurau dros dro y Grant Cynnal rwyf wedi'u cyhoeddi heddiw yn cynnwys trosglwyddiadau o £10 miliwn i'r setliad mewn cyllid sy’n cael ei dalu drwy grantiau penodol ar hyn o bryd. Mae manylion y trosglwyddiadau yn cael eu cynnwys yn nhablau’r setliad sydd ar y we. Rydym yn parhau i edrych ar y potensial ar gyfer atgyfnerthu cyllid grant penodol pellach o fewn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y setliad terfynol.

 

Rwyf wedi ysgrifennu at fy nghyd-aelodau yn y Cabinet am yr angen i ystyried ad-drefnu grantiau cyfredol i leihau biwrocratiaeth a chostau gweinyddu. Mae gwaith y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes i ad-drefnu grantiau addysg drwy'r Adolygiad Adnoddau Rheng Flaen a chyhoeddiad y Gweinidog dros Dai ddoe i uno’r grantiau Cefnogi Pobl yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i’r agenda hwn.

 

Casgliad.

 

Nid yw hwn yn setliad hawdd. Rwyf wedi gallu cynyddu ychydig ar y lefel bresennol o gyllid arian parod dros y cyfnod cyllido tair blynedd, ond nid oes darpariaeth ar gyfer pwysau chwyddiant. Wedi dweud hyn, mae'n llawer mwy cadarnhaol nag yr oedd awdurdodau lleol yn gobeithio amdano ac yn ei ragweld, rwy’n tybio, yn ystod y misoedd o gynllunio senario cyn yr Adolygiad Gwariant. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol ac yn cydnabod y gwasanaethau cyhoeddus pwysig y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, ac yn rhoi’r gwasanaethau allweddol y maent yn eu darparu ar yr un lefel â blaenoriaethau’r Gwasanaeth Iechyd.

 

Ond ni allwn ystyried y setliad hwn fel seibiant. Mae'r heriau i'r sector cyhoeddus yn parhau a byddant yr un mor ddifrifol yn y dyfodol ag y maen nhw heddiw. Sicrhau gwasanaethau o safon dda am lai o arian yw fy arwyddair i o hyd a gall y setliad hwn fod yn sbardun ar gyfer gwella ymhellach yn y dyfodol.

 

Byddaf i a dinasyddion Cymru, yn dibynnu ar benderfyniad, sgil a phrofiad rheolwyr yr awdurdodau lleol, yr undebau llafur a'r rheini sydd ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau. Rwy’n hyderus y byddant yn ymateb i'r her.

 

Mae heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori o chwe wythnos a fydd yn dod i ben ar 4 Ionawr 2011.