Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ar y Fframwaith Amgylchedd Naturiol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Lansiwyd yr ymgynghoriad Cymru Fyw ar 15 Medi 2010 a'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion oedd 31 Rhagfyr 2010. 

 

Cymru Fyw oedd yr ymgynghoriad mwyaf poblogaidd ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Medi, Hydref a Thachwedd ac rydym yn aros i glywed mai dyma'r ymgynghoriad mwyaf poblogaidd yn ystod mis Rhagfyr hefyd. Mae Tîm Canolog y We wedi cadarnhau mai'r ymgynghoriad hwn yw'r ail ymgynghoriad  mwyaf poblogaidd erioed gan y Cynulliad, edrychwyd arno tua 6,600 o weithiau ac ymwelwyd â'r dudalen tua 3,000 o weithiau.  Cafodd y ddogfen ymgynghori ei lawrlwytho dros 1,200 o weithiau yn ystod y broses ymgynghori. 

 

Hyd yn hyn rydym wedi derbyn 186 o ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n amrywio o negeseuon e-bost byr i ddogfennau sydd â nifer o atodiadau. Bydd angen amser i ystyried yr ymatebion hyn.  Mae gennym ddwy broses yn eu lle ar gyfer gwneud hynny.  Mae rheolwyr prosiectau  a swyddogion sy'n arwain y ffrydiau gwaith yn parhau i ystyried yr ymatebion wrth iddynt gyrraedd er mwyn nodi unrhyw gysylltiadau, bylchau neu gynnig o gymorth.  Yn ogystal, mae'r gyfres gyfan o ymatebion yn cael eu dadansoddi er mwyn llunio crynodeb o'r ymatebion a datganiad ar y camau nesaf.

 

Nodwch os gwelwch yn dda fod y camau nesaf sydd wedi'u nodi isod yn adlewyrchu'n ffordd o feddwl ar hyn o bryd ac mae'n debygol iawn y byddant yn cael eu diwygio yn sgil yr ymatebion a ddaw i'r ymgynghoriad.  Byddwn yn cyhoeddi adroddiad arall ar y sefyllfa ddiweddaraf ym mis Chwefror.

 

Mae Rhaglen Cymru Fyw yn cynnwys y ffrydiau gwaith canlynol:

 

Adeiladu'r Sylfaen Dystiolaeth (sy'n cydgysylltu ffrydiau gwaith A, B ac C)

A.     Iechyd Ecosystemau

B.     Rhoi Gwerth ar Ecosystemau

C.    Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

D.  Dulliau Rheoleiddio a Rheoli

E.  Adnewyddu Mecanweithiau Partneriaeth

 

Caiff yr holl ffrydiau gwaith eu rheoli gan gadeirydd a rheolwr prosiect ac maent wedi cyfarfod o leiaf ddwywaith (mae rhai ohonynt wedi cyfarfod yn amlach). Lluniwyd cynllun prosiect drafft gan bob ffrwd waith, ac mae'r cynlluniau'n cael eu diwygio ar hyn o bryd yn sgil yr ymatebion i'r ymgynghoriad.  Gall cyrff cyhoeddus allanol, cyrff preifat a chyrff o'r sector gwirfoddol gymryd rhan yn y ffrydiau gwaith, a hynny naill ai fel rhan o aelodaeth graidd pob ffrwd waith neu fel rhan o grŵp cyfeirio ehangach. Dyma gyfle i bob un ein helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o weithredu a chael rhoi mewnbwn ar gyfer ei ddyluniad.

 

Mae cysylltiad cryf â'r Adolygiad o'r Cyrff sy'n Darparu: adnewyddu trefniadau sefydliadol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  

Mae Gweinidogion wedi cymeradwyo gwaith pellach ar yr opsiwn o greu un corff amgylcheddol i Gymru. Bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu er mwyn arwain cam nesaf y gwaith a bydd y Gweinidogion yn ystyried aelodaeth a chylch gorchwyl y grŵp maes o law.  Bydd y gwaith yn rhoi sylw i bob un o'r ystyriaethau gan gynnwys materion ariannol a pholisi, ac yn enwedig, gwaith Cymry Fyw, Fframwaith Amgylchedd Naturiol ar gyfer Cymru. Bydd yn edrych ar union bwrpas a swyddogaeth un corff amgylcheddol ac yn arwain ar y gwaith o ddatblygu achos busnes manwl

Dyma ddiweddariad byr ar hynt y gwaith a'r camau nesaf ar gyfer y ffrydiau gwaith eraill:

A.       Iechyd Ecosystemau

 

Mae'r ffrwd waith hon yn ystyried materion rhywogaethau allweddol a'u cadernid a’r hyn sy'n gwneud ecosystem

iach. Maent wedi drafftio cyfres estynedig o ddiffiniadau, adroddiad manwl ar y rhesymau y tu ôl i beidio â bodloni

targedau a rhestr o ddogfennau allweddol sy'n ymwneud â gwasanaethau a nwyddau ecosystemau.

 

Mae'r ffrwd waith yn defnyddio gwaith presennol ar yr holl rywogaethau (daearol, dŵr croyw a morol) er mwyn ateb y cwestiwn sef pa ecosystem yr ydym ni ei heisiau ac sydd ei hangen arnom a lle y dylid ei lleoli yng Nghymru er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom.  Bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol bwysig i ni er mwyn galluogi ffrydiau gwaith eraill i allu arfarnu'n llwyr pa mor effeithiol yw'r dulliau rheoleiddio a rheoli presennol, er mwyn dylunio'r System Gwybodaeth Ddaearyddol briodol ac arfarnu offer economaidd posibl.

 

Byddant yn llunio canlyniadau sy'n seiliedig ar fapiau ac yn cysylltu gyda ffrwd waith y System Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn sicrhau eu bod yn cydweddu â'r systemau cyflawni sydd eisoes yn cael eu defnyddio. Rydym yn rhagweld y caiff y grŵp ei ehangu er mwyn cynnwys mwy o fewnbwn academaidd yn ddiweddarach yn y broses ac er mwyn rhannu diffiniadau sydd wedi'u hail-ddrafftio a rhestr o’r mathau o ecosystemau â'r ffrydiau gwaith eraill yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae'r ffrwd waith yn gweithio ar enghreifftiau real er mwyn dangos egwyddorion iechyd a chadernid ac wedi llunio model sydd wedi’i brofi ar gyfer coetiroedd, a fydd yn cael ei brofi gyda mathau eraill o rywogaethau hefyd.  Mae'r model yn edrych ar y ffactorau a'r prosesau sy'n dylanwadu ar gyflwr y safle a sut y mae'r tirlun yn gweithio. Maent yn cydweithio yn agos â'r Is-adran Cynaliadwyedd a Thystiolaeth Amgylcheddol (SEED) i ddadansoddi'r ymdrechion monitro presennol er mwyn gweld pa mor dda y gall gyflenwi ein hanghenion ar gyfer y dyfodol.

 

Maent wedi adolygu'r cysyniad o rywogaethau allweddol fel dangosyddion iechyd ecosystem ac wedi pennu nad ydynt yn addas ar gyfer ein dibenion ni. Yn ogystal â'r mapiau a'r crynodeb technegol, byddant yn darparu astudiaethau achos sydd wedi'u profi'n dda ar gyfer y rhan fwyaf o'r allbynnau.  Bydd y ffrwd waith hon yn creu dulliau monitro a rennir er mwyn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, a bydd elfennau cyntaf y dulliau hynny yn eu lle erbyn mis Mai 2011.

 

B.      Rhoi Gwerth ar Ecosystemau

 

Bydd y ffrwd waith hon yn ystyried tystiolaeth economaidd berthnasol, offer economaidd y gellir eu defnyddio i sicrhau canlyniadau ecosystem diogel, ynghyd â data economaidd cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.  Y gobaith yw y bydd y grŵp hwn yn rhoi gwerth ar elfennau allweddol cyfalaf amgylcheddol yng Nghymru ac asesu’r offer presennol ar gyfer rhoi gwerth ar gyfalaf economaidd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

Mae adolygiad cychwynnol a wnaed ar y sylfaen dystiolaeth wedi pennu, er bod sylfaen dystiolaeth fawr (ac sy'n ehangu) ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol ar werth gwasanaethau ecosystemau, ychydig iawn o wybodaeth sy'n benodol i Gymru sydd ar gael.  Fel cam cyntaf y broses o fynd i'r afael â'r mater hwn, mae tair astudiaeth achos yn cael eu datblygu ar hyn o bryd sy'n edrych ar y newid yng ngwerth y gwasanaethau ecosystem yng Nghymru sy'n gysylltiedig ag:

  • Ehangu'r rhwydwaith o Ardaloedd Gwarchodedig Morol;
  • Cynyddu mynediad at Fannau Gwyrdd Trefol, a
  • rhaglen ehangu coetiroedd.

Mae'r grŵp hefyd yn bwriadu pennu'r bylchau allweddol yn y sylfaen dystiolaeth ac ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â'r bylchau hynny.

 

Un o'r cwestiynau allweddol y gofynnwyd i'r grŵp yn y ddogfen ymgynghori oedd a fyddai gwerth mewn datblygu cyfrifon ffurfiol ar gyfer cyfalaf naturiol yng Nghymru.  Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar lefel ryngwladol i ddatblygu dull cyson a chadarn ar gyfer cynnwys rhoi gwerth ar ffynonellau amgylcheddol a gwasanaethau ecosystem i systemau cyfrifo naturiol.  Er enghraifft, yn y Confensiwn diweddar ar Fioamrywiaeth yn Nagoya, gwnaeth Banc y Byd lansio partneriaeth fyd-eang a phrosiect peilot dros gyfnod o 5 mlynedd gyda'r nod o ddatblygu'r systemau sydd eu hangen i gynnwys gwerth llawn y manteision sy'n dod o wasanaethau ecosystem yn y fframweithiau cyfrifo cenedlaethol. Er y teimlir nad oes llawer o werth i Gymru ddatblygu ei dulliau cyfrifo ei hun ar wahân i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, y mae'n bosibl bod cwmpas i ddechrau ar y gwaith o roi'r setiau data ffisegol fydd eu hangen ar gyfer llunio cyfrifon cyfalaf naturiol at ei gilydd.  Caiff y mater hwn ei archwilio ymhellach yn ystod y misoedd nesaf.  

 

C.      Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

 

Un o ganlyniadau cyflawni allweddol is-ffrwd dystiolaeth y Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yw dod o hyd i dystiolaeth a llunio sylfaen dystiolaeth ofodol o ddata daearyddol cadarn a pherthnasol er mwyn cefnogi anghenion y fframwaith. Mae'r broses barhaus hon wedi tynnu ynghyd sgiliau swyddogion data a'r System Gwybodaeth Ddaearyddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn ymarfer cydweithredol er mwyn gwella gwybodaeth am y drysorfa o wybodaeth ddaearyddol sydd gan y sefydliadau hyn ynghyd â mynediad at y wybodaeth honno. Mae'r prosiect wedi sicrhau cynnydd yn yr ystod o dystiolaeth sydd ar gael er mwyn cefnogi'r fframwaith.

 

Ynghyd â'r cyflawniadau hyn gwnaethpwyd hefyd welliannau i'r dulliau cyfnewid data ar draws y sefydliadau er mwyn sicrhau bod y llif data yn fwy effeithlon ac ymatebol a chrëwyd prototeip o borthol mapiau ar-lein i gefnogi proses ymgynghori 'Cymru Fyw'.

 

Bydd porthol mapiau System Gwybodaeth Ddaearyddol y Fframwaith Amgylchedd Naturiol yn cael ei brofi ymhellach fel offer cyfathrebu, a hynny gyda'r bwriad o gyhoeddi setiau data allweddol a allent fod yn fanteisiol i gymunedau defnyddwyr gwahanol. Bydd gwelliannau'n cael eu gwneud er mwyn creu system fwy cynhwysfawr, a rhagwelir y bydd hynny'n digwydd ym mis Mai 2011.

 

D.      Adnewyddu Dulliau Rheoleiddio a Rheoli

 

Mae ffrwd waith dulliau Rheoleiddio a Rheoli yn canolbwyntio ar gynnal adolygiad trylwyr o'r fframwaith rheoleiddio presennol fel y mae'n gymwys i'r egwyddorion sy'n dod i'r amlwg yn y Fframwaith Amgylchedd Naturiol. Ein dull ni o weithredu oedd ffurfio grŵp craidd o arbenigwyr (rheoleiddwyr yn bennaf) i ddyfeisio fformat asesu sydd wedi'i ddylunio i ddod o hyd i'r ddealltwriaeth allweddol a darparu sylfaen dystiolaeth gychwynnol a fydd yn sail i'n gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r asesiad yn cynnwys cyfuniad o holiadur wedi'i dargedu ar grŵp ehangach o rheoleiddwyr a'r rhai sy'n cael eu rheoleiddio, adolygiad o ddeunydd adolygiadau'r gorffennol o ddeddfwriaeth a chyfweliadau 1:1 gyda grŵp ehangach o reoleiddwyr a'r rhai sy'n cael eu rheoleiddio. Bydd y sylfaen dystiolaeth yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth o ran cyflawni'r diben a fwriadwyd ar ei chyfer a'i heffaith ehangach o ran darparu ecosystemau iach a'u gwasanaethau.

 

Mae'r ffrwd waith eisoes wedi nodi dibyniaeth allweddol gydag egwyddorion Cymru Fyw a'r gwaith tystiolaeth ehangach. Mae angen i ni fod yn gwbl glir o ran yr hyn yr ydym yn ei ofyn gan ein tiroedd a'n moroedd a'r ffordd y mae'r gymdeithas yn manteisio arnynt a hynny er mwyn arfarnu pa mor effeithiol yw'r dulliau rheoleiddio a rheoli presennol ar gyfer cyflawni'r canlyniadau hyn. Mae yn bosibl y bydd angen, yn y dyfodol, ddeddfwriaeth allweddol a fydd yn sail i hynny, fodd bynnag ni ddylai hynny ein hatal rhag nodi a rhoi prosesau syml a dulliau rheoli allweddol yn eu lle er mwyn gwneud y broses o roi ein cyfres bresennol o ddeddfwriaeth ar waith yn fwy effeithiol.

 

Mae'r dangosyddion cychwynnol sy'n seiliedig ar drafodaethau gan gynrychiolwyr y ffrwd waith, yn hytrach nag ar ganlyniadau'r asesiad sydd newydd ddechrau, yn nodi ei bod hi'n ymddangos bod yna gwmpas sylweddol ar gyfer gwella'r ffordd y caiff y ddeddfwriaeth bresennol ei chymhwyso a'i gweithredu.  Nid yw hyn yn gymwys i dermau proses pur yn unig ond hefyd o ran sut y gall 'gwreiddio'r’ gwaith o weithredu deddfwriaeth mewn dulliau rheoli ehangach brofi i fod yn ddull cyflawni effeithiol. Dyma faes y mae'r ffrwd waith yn awyddus i’w archwilio ymhellach ond mae angen i ni wneud hynny mewn dull dilyniannol, wedi creu sylfaen gref a fydd yn ein gwasanaethu'n well yn y tymor canolig.

 

E.       Adnewyddu Mecanweithiau Partneriaeth

 

Y ffrwd waith hon sy'n arwain y gweithgareddau ymgynghori ac sy'n rheoli'r cynllun cyfathrebu ar gyfer Cymru Fyw.  Datblygwyd pecyn cymorth (negeseuon allweddol, deunyddiau cyflwyno ac amlinelliad o'r gweithdai) er mwyn i bartneriaid eu defnyddio. Fel rhan o'r broses hon, mae aelodau o'r ffrwd waith a phartneriaid eraill yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ystod lawer ehangach o randdeiliaid nag sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd â diogelu a gwella ecosystemau.

 

Mae aelodaeth y ffrwd waith yn cynnwys cyrff amgylcheddol a chyrff nad ydynt yn rhai amgylcheddol ac yn cynnwys arbenigwyr ar gyfathrebu, amaethyddiaeth, twristiaeth a gweithgynhyrchu. Y flaenoriaeth hyd yn hyn oedd codi ymwybyddiaeth ac annog ymatebion.  Er ei bod hi'n anodd priodoli'n uniongyrchol i'r gwaith hwn, ymddengys bod presenoldeb a chyflwyniadau mewn cynadleddau a chyfarfodydd gwahanol wedi sicrhau ymateb sylweddol o ran nifer yr ymweliadau â gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, sawl gwaith y cafodd y ddogfen ymgynghori ei lawrlwytho a nifer yr ymatebion ffurfiol a gyflwynwyd.

 

Cred y grŵp ei fod wedi cyflawni'i flaenoriaeth gychwynnol o ymgysylltu'n ehangach gyda rhanddeiliaid a sectorau allweddol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a chyda nifer o sefydliadau yn dioddef caledi ariannol, mae'n rhaid i ni weithio ar gyflymder sy'n ffafriol iddynt hwy a'u hadnoddau. Mae yna deimlad bod angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod mwy yn ymrwymo i rai o egwyddorion sylfaenol Cymru Fyw.  Mae angen rhagor o amser i gael mwy o ymatebion gan sefydliadau ac i asesu a oes sectorau sydd wedi'u hepgor a, mae angen hefyd, trafod cysyniadau Cymru Fyw gyda'r cyhoedd ehangach. Rydym yn ceisio sicrhau cysondeb yn ein dull yn dilyn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai ac rydym wedi argymell y dylid cynnal Uwchgynhadledd cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl yr etholiadau er mwyn sicrhau bod y Gweinidog / Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i newid gymaint â'r un presennol.

 

Golyga'r ffaith bod y ffrwd waith hon wedi canolbwyntio ar ofyn am ymatebion drwy fynychu cyfarfodydd cyrff sy'n "bartneriaid" a gwneud cyflwyniadau ei fod wedi mynd ati'n fwriadol i beidio â dechrau ar y gwaith o edrych ar sut y bydd gwaith partneriaeth yn wahanol o dan y fframwaith newydd a dyna, yn ein tyb ni fydd gwaith allweddol y ffrwd waith yn ystod cam 2.

 

Y Camau Nesaf

 

Bydd crynodeb o'r ymatebion a datganiad ar y camau nesaf ar gael ym mis Chwefror  2011,  ynghyd â detholiad o adroddiadau diweddaru, megis:- papur  diffiniadau wedi'i adnewyddu a'i ehangu, adroddiadau ar gynnydd dangosyddion a monitro, a'r posibilrwydd o gyfrifo cyfalaf naturiol. Bydd astudiaethau achos ychwanegol a datblygiadau pellach y Porthol Systemau gwybodaeth ddaearyddol hefyd ar gael.