Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cynllun Datblygu Sain Tathan

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad yn rhoi ystyriaeth i brynu’n orfodol dir a’i hawliau at ddiben datblygu Parc Busnes Awyr Ofod, Coleg Technegol Amddiffyn a seilwaith cysylltiedig.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gennyf ar 19 Hydref, rwyf wedi bod yn ystyried cais i gyhoeddi adroddiad yr arolygydd am y gorchymyn prynu gorfodol.
 
O ystyried yr oedi cyn cadarnhau’r cynlluniau ar gyfer hyfforddiant amddiffyn, rwyf wedi penderfynu gwneud eithriad a chyhoeddi’r Adroddiad cyn i Weinidogion Cymru fynd ati i wneud penderfyniad am y Gorchymyn. Mae copi i’w weld ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni ddylai’r penderfyniad hwn i gyhoeddi’r Adroddiad yn gynnar gael ei gamgymryd am y penderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid gwneud y Gorchymyn ai peidio.  

Byddaf yn parhau i hysbysu Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid am unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol.