Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Lansio Ymgynghoriad Papur Gwyrdd Cynnal Cymru Fyw

Dolenni perthnasol

Ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus y Papur Gwyrdd ‘Cynnal Cymru Fyw’ yn Tata Steel, Port Talbot, am 10.00am ar 30 Ionawr 2012. Daw cyfnod yr ymgynghoriad i ben ar 31 Mai 2012.  

Mae ‘Cynnal Cymru Fyw’ yn ceisio safbwyntiau ar ffordd newydd o reoli a rheoleiddio’r amgylchedd yng Nghymru. Bydd mabwysiadu dull o reoli’n hadnoddau naturiol ar sail yr ecosystem yn golygu ystyried a rheoleiddio’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na delio ag agweddau unigol ar wahân. Mae hefyd yn ystyried y manteision a all ddod o reoli’r amgylchedd yn well – i bobl, swyddi ac iechyd nawr ac yn y dyfodol.