Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Sefydlu Cynllun Cenedlaethol ar Gyfer Trin Mân Anhwylderau yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am fy mwriad i sefydlu cynllun cenedlaethol ar gyfer trin mân anhwylderau yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cael ei ddarparu gan fferyllfeydd cymunedol.

O dan y cynllun newydd, caiff fferyllwyr sydd wedi’u hawdurdodi asesu cleifion, gan ddewis a rhoi triniaeth o restr o feddyginiaethau (fformiwlari) sy’n cwmpasu ystod benodol o anhwylderau. Rhoddir y meddyginiaethau am ddim, a bydd unigolion, sydd wedi eu cofrestru â’r fferyllfa, hefyd yn gallu cael cyngor neu gael eu hatgyfeirio at eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall fel sy’n briodol.  

Rhaid diffinio pa anhwylderau y gellir eu trin trwy’r gwasanaeth newydd hwn. Fodd bynnag, byddant yn gyflyrau y gall fferyllydd cymunedol eu hadnabod a’u trin yn ddiogel ac yn effeithiol, er enghraifft llau pen, rhwymedd, diffyg traul, clefyd y gwair, peswch, dolur gwddf a tharwden y traed (athlete’s foot). Mae fferyllwyr wedi eu hyfforddi i drin anhwylderau o’r fath, ac maent eisoes yn treulio cryn dipyn o’u hamser yn rhoi cyngor ar y cyflyrau hyn. Byddaf yn disgwyl i’r fferyllfeydd cymunedol sy’n cynnig y gwasanaeth newydd hwn sicrhau ei fod ar gael ar adegau cyfleus sy’n bodloni anghenion y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Rwyf o’r farn y bydd y manteision sy’n deillio o’r gwasanaeth hwn yn hyrwyddo hunan-ofal, ac yn cynyddu capasiti ein gwasanaethau gan eu hannog i ddefnyddio dulliau mwy effeithiol o gydweithio yn y gymuned er budd ein dinasyddion. Bydd yn haws cael gwasanaeth sy’n ymdrin ag anhwylderau mân, ac ar yr un pryd rhyddheir amser meddygon teulu ar gyfer ymdrin ag achosion mwy cymhleth. Yn y pen draw, bydd y gwasanaeth yn arwain at ddefnydd mwy priodol o sgiliau meddygon teulu a sgiliau fferyllwyr cymunedol. Serch hynny, er ein bod yn awyddus i annog pobl i fanteisio’n llawn ar wasanaeth eu fferyllydd cymunedol lleol i drin mân anhwylderau, rhaid pwysleisio y bydd pobl yn cael parhau i fynd at eu meddyg teulu os byddant yn teimlo bod hynny’n angenrheidiol.  

Bydd y gwaith datblygu yn dechrau ym mis Mawrth 2012. Rhan hollbwysig o’r gwaith hwn fydd datblygu seilwaith TG i gefnogi’r gwasanaeth newydd hwn a’r gwasanaethau ehangach a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol. Rwyf yn arbennig o awyddus i weld y seilwaith yn helpu i rannu gwybodaeth briodol am gleifion rhwng ysbytai, meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol er budd y claf.  

Byddwn yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan Fyrddau Iechyd Lleol, a bwriedir i’r gwasanaethau cyntaf fod ar waith o fewn 12 mis, gan gyflwyno eraill wedyn fesul cam o ddiwedd 2013. Mae hon yn rhaglen waith heriol, ac i fod yn llwyddiannus rhaid i’r holl gymuned gofal iechyd weithio ar draws ffiniau proffesiynol traddodiadol er lles y claf. Rwyf wedi penderfynu defnyddio dull gweithredu fesul cam er mwyn inni allu gwerthuso pob cam o’r broses i’n helpu i greu’r math o wasanaeth cenedlaethol y gallwn fod yn falch ohono. Byddaf yn rhoi gwybodaeth gyson i’r aelodau am sut mae’r cynllun yn mynd rhagddo.