Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cyhoeddi'r Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19

Dolenni perthnasol

Rydym yn gofyn am eich barn ar sut i wella cymwysterau a gymerwyd gan bobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau 

Datganaf heddiw y caiff Papur Ymgynghori'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 ei gyhoeddi ar 31 Mai 2012.

Wrth lansio'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru ar 29 Medi 2011, cyhoeddais y byddai'r Adolygiad yn ystyried sut y gallwn ni sicrhau bod ein system gymwysterau yn cael ei deall a'i gwerthfawrogi, a'i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn misoedd o gydweithio helaeth â rhanddeiliaid a chasglu tystiolaeth, gwaith a ddechreuodd hydref diwethaf.  Mae'r papur ymgynghori'n amlinellu safbwyntiau'r Bwrdd Adolygu ac yn ceisio adborth gan randdeiliaid ar nifer o gwestiynau cyffredinol a phenodol.  Bydd yr ymatebion yn llywio'r gwaith o ddatblygu adroddiad terfynol y Bwrdd, gan gynnwys casgliadau ac argymhellion, a disgwylir iddo gyflwyno'r adroddiad i mi ym mis Tachwedd 2012.

Bydd yr ymarfer ymgynghori yn para 13 wythnos o 31 Mai i 1 Medi 2012 a bydd yn cynnwys diwrnod tystiolaeth ym mis Gorffennaf.  Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 12 Mehefin i roi diweddariad i'r aelodau ar yr Adolygiad a'r casgliadau sy'n deillio ohono.