Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Mynd i’r Afael â Thlodi

Dolenni perthnasol

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Llywodraeth Cymru
Gan fod tlodi’n broblem sy’n destun pryder i bob un ohonom – ac yn broblem y byddwn i gyd yn mynd i’r afael â hi – rydym wedi cymryd y cam anarferol o gyhoeddi’r datganiad hwn yn enw pob Gweinidog a Dirprwy Weinidog.

Mae gan y Llywodraeth yng Nghymru hanes o ymrwymo i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Mae dyletswydd wedi bod arni erioed i roi sylw i’r egwyddor o gyfle cyfartal a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Gwelir y gwerthoedd hyn ar waith yn ymarferol yn y rhaglenni sy’n canolbwyntio ar nodau tymor hir ac yn y cymorth a roddir i’r bobl fwyaf difreintiedig. Mae Cymunedau yn Gyntaf, a ddechreuodd yn 2001, wedi parhau trwy gydol y Cynulliad cyntaf, a hefyd yr ail a’r trydydd, gan ddangos parhad ein hymrwymiad i’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf. Mae’r Llywodraeth hon wedi cadarnhau’r ymrwymiad hwnnw unwaith yn rhagor. Mae 18,000 o blant wedi elwa ar y rhaglen Dechrau’n Deg ers iddi gael ei lansio yn 2006. Rydym wedi rhoi cymorth ymarferol i blant a phobl hŷn trwy roi brecwast a llaeth am ddim mewn ysgolion, a sicrhau mynediad am ddim i byllau nofio ac amgueddfeydd, a theithio am ddim ar y bws. Rydym wedi gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac wedi rhoi cymorth i ddefnyddio’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd er mwyn helpu pobl i ymuno â’r farchnad lafur. Rydym hefyd wedi cadw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Mae’r cyd-destun presennol y llawer iawn mwy heriol nag y gellid fod wedi’i ragweld yn 2003 pan gyhoeddwyd y Strategaeth Tlodi Tanwydd gyntaf, neu yn 2005 - pan lansiwyd y strategaeth tlodi plant gyntaf  - neu hyd yn oed yn 2008. Mae twf economaidd wedi arafu, mae cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn cael eu torri, ac mae costau byw wedi codi yn sgil y cynnydd ym mhrisiau ynni a bwyd. Cyflogaeth yw’r ffordd orau i ddianc rhag tlodi, ond er bod y gyfradd cyflogaeth wedi gwella yng Nghymru yn gynt na chyfradd cyflogaeth y DU dros y chwarter diwethaf a’r flwyddyn ddiwethaf, mewn rhai ardaloedd mae’n parhau’n 8 pwynt canran o dan y cyfartaledd ar gyfer y DU. Dylai’r system les greu cymhellion effeithiol i annog y rheini sy’n gallu gweithio i weithio. Fodd bynnag, bydd y newidiadau arfaethedig yn digwydd ar adeg ac ar y fath raddfa fel y byddant yn sicr o beri i fwy o deuluoedd ac unigolion orfod byw mewn tlodi. Rhagwelir y byd yr effeithiau ar Gymru yn golygu y bydd y sefyllfa yn llithro yn ei hôl, gan mai’r teuluoedd tlotaf yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o golli’r gyfran fwyaf o’u hincwm, a hynny mewn modd sy’n fwy llym nag yng ngweddill y DU yn gyffredinol. Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol, a grëwyd i ystyried goblygiadau’r newidiadau a gyflwynir gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, wedi comisiynu asesiad cynhwysfawr o effeithiau cronnol y newidiadau hyn. Ceir rhagor o fanylion mewn datganiad llafar gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.  

Rydym yn wynebu heriau mawr oherwydd y cyfuniad o ansicrwydd economaidd ehangach a pholisïau Llywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros bolisi macro-economaidd na threthi a nawdd cymdeithasol: nid oes gennym y pwerau, er enghraifft, i gynyddu budd-dal plant er mwyn codi plant allan o dlodi. Serch hyn, rydym yn benderfynol ein bod yn ymateb modd rhagweithiol. Yn ogystal â’r ansicrwydd presennol a’r effaith gymdeithasol sy’n golygu y bydd mwy o gartrefi’n wynebu problemau fel amddifadedd a dyledion, mae hefyd resymau economaidd sy’n ein sbarduno i weithredu. Mae tlodi yn gost i’r genedl, yn nhermau’r golled i’r unigolion ac i’r economi, a gallai hynny wedyn arwain at alw cynyddol ar y gwasanaethau cyhoeddus - er y gallai fod yn bosibl osgoi hyn. Mae’n bwysicach nag erioed i gadarnhau ein hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ac i ymdrechu’n galetach i ddod o hyd i’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny.  

Bydd y cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi, ynghyd â’n Cynllun Cydraddoldeb statudol, yn darparu’r fframwaith ar gyfer yr ymdrechion hyn. Bydd y cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ein strategaeth tlodi plant statudol, o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Dyma brif amcanion y cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi:

  • er mwyn cyd-fynd â’n hymrwymiad i sicrhau lles yn y tymor hir, ein prif flaenoriaeth yw atal tlodi, yn enwedig drwy fuddsoddi mewn rhoi’r cychwyn gorau posibl i blant mewn bywyd. O’r groth i’r oedolyn ifanc, ein nod fydd lleihau anghydraddoldebau yn gynnar a thorri’r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawniad addysgol a’r cyfleoedd oes diffygiol sy’n deillio o’r rheini.
  • gan gydnabod mai cyflogaeth yw’r ffordd orau allan o dlodi, byddwn yn parhau i helpu pobl i wella eu sgiliau a gwella perthnasedd eu cymwysterau. Byddwn hefyd yn cael gwared ar rwystrau eraill i gyflogaeth - o’r rhwystrau ymarferol fel hygyrchedd, i rwystrau llai gweladwy fel diffyg dyhead - gan helpu pobl i symud ymlaen ac i ddringo fyny’r ysgol gyflogaeth. Dyna pam ein bod, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, wedi cyflwyno rhaglenni cyflogaeth newydd i gynorthwyo pobl ifanc i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith gwerthfawr; rydym yn cynyddu nifer y Prentisiaethau ac yn buddsoddi mewn sgiliau; a byddwn yn gweithredu Twf Swyddi Cymru o 1 Ebrill 2012 a fydd yn creu 4,000 o swyddi y flwyddyn i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
  • Ar yr un pryd, byddwn yn gwneud mwy i liniaru effaith tlodi yma a nawr. Rydym yn sylweddoli, hyd yn oed os ydynt mewn gwaith, i fwy a mwy o bobl nid yw hynny’n gwarantu y gallant ddianc rhag tlodi. Gallwn weithredu i wella profiad ymarferol y cymunedau, teuluoedd ac unigolion hyn. I roi un enghraifft yn unig, drwy sicrhau bod mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn rhan annatod o’r agenda hon, gallwn helpu i leihau costau i unigolion a theuluoedd, gwella’u lles, cynyddu gweithgarwch economaidd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Rhaid datblygu’r camau gweithredu yn y meysydd hyn mewn ffyrdd sy’n atgyfnerthu’n gydfuddiannol. Dylai gofal plant fforddiadwy o ansawdd dda helpu plant i gyrraedd cerrig milltir pwysig yn eu datblygiad; ar yr un pryd bydd yn creu cyflogaeth i rai ac yn cael gwared ar y rhwystr i gyflogaeth i eraill. Dylai camau cynnar sydd wedi’u targedu i rwystro pobl ifanc rhag gadael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth fod o fantais iddynt hwy’n uniongyrchol ond dylai hefyd fod o fantais i’r genhedlaeth nesaf. Dylai cyngor sy’n helpu pobl i ddelio â dyled, neu fynd ar-lein, fod yn sail i’w galluogi nhw i reoli eu harian yn gynaliadwy a defnyddio’u sgiliau newydd i gynyddu eu hymgysylltiad â gwaith a chymdeithas.

Fe wnaethon ni nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu y camau allweddol rydym yn eu cymryd a’r mesurau ar gyfer ystyried ein cynnydd. Fodd bynnag, nid yw’r heriau’n rhai y gall llywodraethu yn unig eu bodloni. Bydd y cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi hefyd yn llunio sut y byddwn yn ceisio eu bodloni.

  • Rydym yn cydnabod bod llawer o’r llwyddiannau o ran mynd i’r afael â thlodi yn ganlyniad ymdrechion unigolion ymroddedig a mentrus, gan ddechrau ar raddfa fach, yn eu cymunedau lleol. Mae egwyddor galluogi cymunedol yn hanfodol i’n dull ni o weithredu.
  • Mae cyfle gyda ni yng Nghymru i gydlynu cymorth gan wahanol asiantaethau o amgylch yr unigolion a’r teuluoedd sydd â’r angen mwyaf, ar lefel leol. Byddwn yn annog datblygiad pellach y model “tîm o amgylch y teulu”.
  • Er mwyn ategu hyn, rhaid i’r gweithredu fod yn gydgysylltiedig ar draws y llywodraeth. Mae angen i raglenni fel Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Gwasanaethau Integredig Teuluoedd yn Gyntaf gydweithio’n ystyrlon â’i gilydd, ond hefyd weithio gyda pholisïau a gwariant prif ffrwd ar yr holl wasanaethau cyhoeddus. Mae Dechrau’n Deg yn gofyn am fuddsoddi mewn sgiliau ac isadeiledd; bydd Cymunedau’n Gyntaf yn helpu’r GIG i gyrraedd pobl sydd â’r mynediad lleiaf i wasanaethau, gan fynd i’r afael â’r “gyfraith gofal o chwith”, sef y sefyllfa pan fydd y rheini sydd â’r angen mwyaf am ofal iechyd yn lleiaf tebygol o’i gael. Mae hefyd gyfle inni edrych af ffyrdd arloesol, effeithiol a newydd i ddefnyddio cyllid yr UE i gefnogi camau gweithredu integredig. Bydd y Bwrdd Rhaglen Gweinidogol ar Fynd i’r Afael â Thlodi’n goruchwylio’r cydgysylltiad hwn ac yn monitro cyfraniad Llywodraeth Cymru ar y cyd tuag at yr amcanion hyn.
  • Bydd y dull hwn o weithredu’n cael ei gefnogi gan ein hamcanion cydraddoldeb strategol, ynghyd â’n hagenda i ddiwygio’r gwasanaeth cyhoeddus. Bydd yn cynnwys symleiddio cynlluniau a rheoleiddio partneriaethau i gefnogi’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau lleol yn gydgysylltiedig. Bydd y cynlluniau integredig unigol a luniwyd ar lefel leol yn canolbwyntio’n glir ar agenda ataliol a chymorth i bobl sy’n agored i niwed. Bydd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus yn gallu dod o hyd i, a mynd ati i gynnig cyfleoedd penodol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau’n fwy effeithiol ac effeithlon, gan nodi, meithrin a throsglwyddo arfer da, a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n sicrhau gwelliannau mesuradwy ar y cyd.

Fel y datganwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, mae’r holl Weinidogion a Dirprwy Weinidogion yn gyfrifol am sicrhau canlyniadau wrth fynd i’r afael â thlodi. Rydym eisoes yn cymryd camau. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn cefnogi cymunedau gwledig, lle mae tlodi ac amddifadedd yn wasgaredig, drwy ddulliau lleol o ddatblygu. Ail-lansiwyd Cymunedau’n Gyntaf, gan ganolbwyntio’n glir ar fynd i’r afael â thlodi drwy sicrhau canlyniadau gwell o ran iechyd, dysgu a chyflogaeth. Mae dyblu lleoedd Dechrau’n Deg wedi cael ei roi ar waith. Mae perfformiad ysgolion yn cael ei asesu yn erbyn cynnydd i gau’r bwlch cyrhaeddiad. Mae Cyngor ar Bopeth wedi cael cyllid sylweddol i barhau i hyrwyddo gwasanaethau cynghori a byddwn yn adolygu ein cymorth i wasanaethau cynghori yn gyffredinol. I bobl anabl, sy’n fwy tebygol o brofi tlodi, mae’r Bathodyn Glas a theithio ar fysiau yn ei gwneud yn haws ac yn fwy fforddiadwy iddynt gael mynediad i gyflogaeth, gwasanaethau ac amwynderau. Mae ymgynghoriad ar y gweill ar sut orau y gallwn helpu’r rhai sydd mewn angen dybryd, gan ddefnyddio adnoddau a drosglwyddwyd o’r Gronfa Gymdeithasol.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn nodi rhestr hir o bartneriaid cyflenwi allweddol. Byddwn yn datblygu cynnwys y Cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi mewn trafodaeth â nhw.  Byddwn yn cyhoeddi braslun llawnach ym mis Mai at y diben hwn, gan gynnwys enghreifftiau pellach o sut y byddwn yn gwneud pethau’n wahanol er mwyn hyrwyddo amcanion atal tlodi, helpu pobl i adael tlodi a lliniaru ei effaith arnynt.