Skip to content

Cyfarfodydd Bwyllgorau'r Cabinet

Gwybodaeth am Bwyllgorau’r Cabinet a sefydlwyd o dan y weinyddiaeth bresennol (ers Mai 2011) gan gynnwys eu haelodaeth, eu cylch gorchwyl a chofnod o'u trafodion.

Mae Bwyllgorau'r Cabinet yn bodoli i ganiatáu i Weinidogion ystyried opsiynau polisi eang a sut i'w datblygu mewn modd mwy ystyrlon ac ystyriol, gan gydweithio â'r rhai y tu allan i'r Llywodraeth sydd â diddordeb yn y meysydd hyn, fel sy'n briodol. Y Cabinet fydd y corff sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol o hyd, ond bydd yr bwyllgorau yn caniatáu ystyriaeth lawnach a mwy strategol o bolisi yn y prif feysydd trawsbynciol.

Polisi'r Cabinet yw cynnal ei fusnes mewn ffordd mor agored â phosibl. Yn unol â hynny, rydym yn cyhoeddi cofnodion, papurau ac agendâu ei gyfarfodydd oni bai bod rhesymau pwysig dros beidio â gwneud hynny.  Cyhoeddir cofnodion a phapurau cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf ond dim cynt na chwe wythnos ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Ni chyhoeddir deunydd ar yr un sail â'r hyn ar gyfer y Cabinet.  Cliciwch ar deitl yr bwyllgor ar ochr chwith y sgrin i ddarllen ei gylch gorchwyl ynghyd ag agendâu a chofnodion y cyfarfodydd.

Gallwch weld cofnodion, agendâu a phapurau'r Is-bwyllgor o weinyddiaethau blaenorol yno hefyd.