Skip to content

Corus

Dolenni perthnasol

Mae busnesau cryf, arloesol a chystadleuol yn hanfodol i economi Cymru.
O'r dudalen hon gallwch weld yr papurau ar gyfer pob cyfarfod o Gweithgor y Cabinet ar Corus 2001-2002.
Gwybodaeth am Is-Bwyllgor y Cabinet gan gynnwys ei aelodaeth, ei gylch gorchwyl a chofnod o'i drafodion.


1. Dyma aelodau’r gweithgor:

  • Prif Weinidog Cymru (Cadeirydd)
  • Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd
  • Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
  • Y Gweinidog dros yr Amgylchedd

Gall Gweinidogion eraill sydd â diddordeb mewn unrhyw eitem ar agenda un o gyfarfodydd y gweithgor ofyn am gael mynychu’r cyfarfod hwnnw.

2.  Cylch Gorchwyl y gweithgor yw trafod a monitro’r gwaith o weithredu’r mesurau adfer sy’n deillio o gyhoeddiad Corus plc ym mis Chwefror/Mawrth 2001 ynghylch ailstrwythuro, cau ffatrioedd a diswyddo, a sicrhau bod y mesurau hyn yn cael eu cyflawni.

3.  Bydd y gweithgor yn parhau i adolygu ei swyddogaeth, a bydd yn gwerthuso ei waith a phenderfynu a oes angen i’r gweithogor barhau ar ôl chwe mis.

4.  Bydd y gweithgor yn cyfarfod fel bo’r angen, yn breifat oni bai ei fod yn penderfynu’n wahanol. Bydd yn adrodd wrth y Cabinet llawn o bryd i’w gilydd.

5.  Bydd y gweithgor yn cael cymorth ar y cyd gan Weithrediaeth y Cabinet a swyddogion yn yr adrannau polisi perthnasol. Efallai y bydd yn gofyn i unigolion a sefydliadau o’r tu allan i’r Cynulliad gyfrannu at ei waith fel bo’n briodol.