Skip to content

Y Cod Gweinidogol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Wrth arfer eu dyletswyddau, disgwylir i ymddygiad cyfansoddiadol a phersonol Gweinidogion fod o’r safon uchaf. Yn benodol, disgwylir iddynt barchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus ac egwyddorion Ymddygiad Gweinidogol.

Mae'r Cod Gweinidogol, a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru, yn rhoi arweiniad i Weinidogion ynghylch sut y dylent weithredu a threfnu eu busnes er mwyn cynnal y safonau hyn. Mae'n berthnasol i bob Gweinidog, y Cwnsler Cyffredinol a'r Dirprwy Weinidogion.

Cyhoeddi Gwybodaeth

Mae'r Cod Gweinidogol yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol bob blwyddyn:

  • nifer, enwau a bandiau cyflog Cynghorwyr Arbennig a chost eu cyflog yn gyffredinol;
  • rhestr o fuddiannau perthnasol Gweinidogion;
  • rhestr o roddion gwerth mwy na £260 a dderbyniwyd gan Weinidogion ar ran Llywodraeth Cymru;
  • rhestr o holl deithiau Gweinidogion dramor sy'n costio mwy na £500 y daith ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau Gweinidogion â gwledydd tramor.