Skip to content

Ysgrifennu at Weinidogion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwybodaeth am sut i ysgrifennu at un o’r Gweinidogion a phryd y gallwch ddisgwyl derbyn ateb.

Gallwch ysgrifennu at y Gweinidogion yn y cyfeiriad post isod neu anfon e-bost atynt drwy’r cyfeiriad e-bost priodol a restrir isod. Mae tudalen manylion bywgraffyddol pob Gweinidog yn rhestru’r materion datganoledig y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdanynt. Os nad yw mater wedi’i restru yno mae hynny’n golygu nad yw wedi’i ddatganoli i Gymru ac mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain sy’n gyfrifol amdano.

Y Gweinidog dros.............
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Y Prif Weinidog:  Carwyn.jones@wales.gsi.gov.uk
Alun Davies:   Correspondence.Alun.Davies@Wales.gsi.gov.uk
Carl Sargeant:    Correspondence.Carl.Sargeant@Wales.gsi.gov.uk
Edwina Hart:   Correspondence.Edwina.Hart@Wales.gsi.gov.uk
Huw Lewis:    Correspondence.Huw.Lewis@Wales.gsi.gov.uk
Jane Hutt:   Correspondence.Jane.Hutt@Wales.gsi.gov.uk
John Griffiths:   Correspondence.John.Griffiths@Wales.gsi.gov.uk
Leighton Andrews:  Correspondence.Leighton.Andrews@Wales.gsi.gov.uk
Lesley Griffiths:  Correspondence.Lesley.Griffiths@Wales.gsi.gov.uk
Mark Drakeford: Correspondence.Mark.Drakeford@Wales.gsi.gov.uk
Gwenda Thomas:  Correspondence.Gwenda.Thomas@Wales.gsi.gov.uk
Jeff Cuthbert:   Correspondence.Jeff.Cuthbert@Wales.gsi.gov.uk

Nod Llywodraeth Cymru yw ateb gohebiaeth ysgrifenedig neu ohebiaeth electronig o fewn 17 diwrnod i’w derbyn. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth a fydd yn nodi erbyn pryd y gallwch ddisgwyl derbyn ateb.

Mae’r Gweinidogion yn derbyn llawer o ohebiaeth ac nid ydynt bob amser yn gallu ateb yn bersonol. Felly, mae’n bosibl y cewch ateb gan un o’r gweision sifil ar eu rhan.

Os bydd y Gweinidog yn derbyn gohebiaeth ynghylch mater nad oes ganddo ef neu hi gyfrifoldeb amdano, bydd yn ei hanfon at y Gweinidog priodol. Os caiff gohebiaeth ei hanfon at nifer o Weinidogion, gan amlaf, y Gweinidog â’r portffolio perthnasol fydd yn ei hateb, neu Swyddog ar eu rhan.

Nid yw llythyrau lle mae Gweinidogion yn cael eu copïo i mewn fel arfer yn cael eu hateb, a byddant yn cael eu ffeilio er gwybodaeth.

Yn gyffredinol, bydd trefnwyr ymgyrchoedd yn cael ateb gan y Gweinidog priodol.  Bydd llythyrau a chardiau post sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch yn cael eu ffeilio.

Os hoffech gysylltu â Gweinidog ynghylch ei rôl ar wahân fel yr Aelod Cynulliad dros eich etholaeth, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gael manylion cyfeiriad e-bost a chysylltu drwy’r post.

Deddf Diogelu Data 1998

Mae modd dod o hyd i wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data a sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn prosesu gohebiaeth i Weinidogion yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi.