Skip to content

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl oddi wrth ein gweision sifil

Rydym wedi gwneud sawl ymrwymiad i bobl Cymru a'n staff er mwyn ein helpu i ddarparu llywodraeth effeithlon, atebol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae'r adran hon yn amlinellu'r ymrwymiadau hyn, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd ac yn esbonio’r ffordd rydym yn eu harfer bob dydd.

Ein hymrwymiadau

Rydym wedi gwneud un ar ddeg o ymrwymiadau allweddol sy’n llywio ein gwaith ac yn cynnwys popeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth i’r iaith Gymraeg.

Ein cenhadaeth

Fel sefydliad, mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ganolog i'n gwaith. Yng Nghymru, mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau a gwella ansawdd bywyd ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r egwyddorion hyn yn llywio'r penderfyniadau hirdymor a wnawn sy'n effeithio ar y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt, yr addysg a'r swyddi sydd ar gael a'r math o gymdeithas y caiff pobl eu magu ynddi. 

Ein gwerthoedd

Caiff ein gwerthoedd eu hadlewyrchu ym mhopeth a wnawn:

Sicrhau canlyniadau

Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i les pobl Cymru.

Gwerthfawrogi pobl

Mae hyn yn golygu rhoi buddiannau pobl Cymru, gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth, wrth wraidd popeth a wnawn. Mae hyn hefyd yn golygu gwerthfawrogi ein gweithwyr, a sicrhau bod ganddynt bopeth sydd eu hangen arnynt i wneud gwaith da a chyrraedd eu potensial. 

Sicrhau rhagoriaeth

Mae hyn yn golygu ymdrechu i wneud y gwaith gorau posibl. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn sicrhau bod gennym yr arbenigedd, yr offer a'r dechnoleg gywir.

Codau ymarfer

Rydym yn cydymffurfio â Chod Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru. Mae’n seiliedig ar y cod ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Sifil y DU ond yn adlewyrchu amgylchiadau penodol Cymru. Mae’n amlinellu sut y dylai gweision sifil ymddwyn yn y gwaith ac yn tynnu sylw at y gwerthoedd craidd sef uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.