Skip to content

Cadw gwybodaeth yn ddiogel

Mae defnyddio gwybodaeth am bobl a chwmnïau yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer ein gwaith. Rydym yn deall ei bod yn bwysig cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac mae gennym amrywiaeth eang o drefniadau i sicrhau nad yw'n cael ei cholli na'i dwyn.

Diogelu Gwybodaeth

Mae gennym Strategaeth Sicrhau Gwybodaeth i wella a chynnal ein trefniadau ar gyfer diogelu gwybodaeth. Yn yr un modd â holl gyrff eraill y llywodraeth, mae gennym hefyd gyfres o reolau diogelwch gwybodaeth i helpu ein staff i ddiogelu'r wybodaeth y maent yn ei defnyddio.
 
Mae gennym raglen hyfforddiant diogelwch gwybodaeth sy'n amrywio o gyrsiau sylfaenol gorfodol ar gyfer pob aelod o staff i gyrsiau arbenigol ar gyfer y rheini sy'n ymdrin â gwahanol fathau o wybodaeth. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ddigwyddiadau diogelwch yn rheolaidd i'n staff ac mae gennym drefniadau disgyblu cadarn.

Safonau

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i hardystio i’r safon Diogelwch Gwybodaeth ISO 27001 a chafodd ei hail-achredu’n llwyddiannus i’r safon hon ym mis Mawrth 2010. Mae’r safon yn cynnwys pob agwedd ar ddiogelwch gwybodaeth, o reoli mynediad at wybodaeth i hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth staff.

Asedau gwybodaeth

Bellach, mae gan bob adran o Lywodraeth Cymru Berchennog Asedau Gwybodaeth. Mae’r uwch swyddogion allweddol hyn yn rhoi sicrwydd bod adrannau’n deall y risgiau i wybodaeth, bod gwybodaeth yn cael ei ddiogelu ar y lefel briodol a’i bod yn cael ei defnyddio yn unol â’r gyfraith er lles y cyhoedd. Mae Perchnogion Asedau Gwybodaeth hefyd yn cydweithio â’r rheini sy’n cadw gwybodaeth ar ein rhan er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth hon yn ddiogel.

Diogelu data

Yn yr un modd â phob sefydliad a busnes arall yn y DU, mae Llywodraeth Cymru yn gorfod cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae pob un o gliniaduron Llywodraeth y Cynulliad wedi’u hamgryptio ac mae staff wedi cael canllawiau clir ar ddefnyddio dyfeisiau TGCh symudol er mwyn sicrhau bod data personol yn ddiogel pan fod staff yn gweithio allan o’r swyddfa. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Diogelu Data.