Skip to content

Bod yn agored ac atebol

Dolenni perthnasol

Mae Cod yn disgrifio yr egwyddorion sydd wrth wraidd ein hagwedd at lywodraeth agored.
Hwn yw’r pedwerydd adroddiad i Lywodraeth y Cynulliad ei gyhoeddi ar y modd y mae’n gweithredu deddfwriaeth a pholisïau llywodraeth agored.
Gellir herio ein perfformiad fel gweision sifil mewn sawl ffordd wahanol. Mae gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil bellach yn gyfreithiol, ac felly rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn gwbl atebol am y gwaith rydym yn ei wneud.

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae bod yn glir ynghylch ein gwariant ar eich rhan a’r modd rydym yn rheoli ein hunain yn bwysicach nag erioed. Yn yr adran hon, ceir nifer o adnoddau i'ch helpu i ddeall sut rydym yn gwneud hyn.

Gwybodaeth a gyhoeddir yn rheolaidd

Rydym yn cyhoeddi ffeithiau a ffigurau yn rheolaidd a fydd yn eich helpu i ddeall sut rydym yn rhedeg ein sefydliad a faint rydym yn ei wario ar hyn. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â staffio, treuliau, adeiladau a mwy. Yn yr adran Ffeithiau a Ffigurau, rydym hefyd yn cyhoeddi nifer o adroddiadau ariannol a allai eich helpu i ddeall ein gwariant ar gefnogi Gweinidogion a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mynediad at wybodaeth

Rydym wedi mabwysiadu’n ffurfiol God Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth a chynllun cyhoeddi. Mae'r Cod yn tanlinellu ein hymrwymiad i fod yn agored, yn amlinellu'r egwyddorion a ddilynwn ac yn datgan yn glir sut y byddwn yn ymateb i geisiadau am wybodaeth megis Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Ceir gwybodaeth am ein perfformiad yn ein hadroddiad blynyddol.

Cwestiynau'r Cynulliad

Rhyngddynt, mae Gweinidogion Cymru wedi ateb dros 20,000 o Gwestiynau'r Cynulliad ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Drafftio atebion i Gwestiynau'r Cynulliad yw un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin i weision sifil allu cyfrannu at fusnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau llafar: Mae Gweinidogion yn ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn unwaith y mis ar system rota. Mae'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos.

Cwestiynau ysgrifenedig:  Ni chaiff cwestiynau ysgrifenedig eu hateb yn y Cyfarfod Llawn. Yn hytrach, mae'r Gweinidog perthnasol yn cymeradwyo'r atebion sydd wedyn yn cael eu cyhoeddi yng nghofnod swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.