Skip to content

Llywodraeth Cymru Datganiad Preifatrwydd

Er mwyn i ni fedru gwneud ein gwaith mae angen i ni gael gwybodaeth bersonol amdanoch fel y gallwn ddarparu gwasanaethau i chi. Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn dweud sut y byddwn ni'n gofalu am yr wybodaeth honno.

Os byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol, rydyn ni'n addo:

  • rhoi gwybod i chi pam fod angen yr wybodaeth honno arnom ac i beth;
  • peidio â gofyn am fwy o wybodaeth nag sydd arnom ei hangen, a pheidio â chasglu gormod o wybodaeth na gwybodaeth ddianghenraid.

Pan fyddwn yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, rydyn ni'n addo:

  • ei diogelu'n briodol a gwneud yn siŵr na chaiff unrhyw un na ddylai'i gweld afael arni;
  • rhoi gwybod i chi os bydd angen ei rhannu gyda sefydliadau eraill i roi gwell gwasanaethau cyhoeddus i chi, a dweud wrthych a allwch wrthod hyn;
  • ystyried y risgiau i breifatrwydd os bwriadwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd;
  • peidio â chadw'r wybodaeth am fwy nag sydd angen; a
  • peidio â darparu'r wybodaeth at ddibenion masnachol (fel marchnata) heb eich caniatâd chi.

Er mwyn cadw'r wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gyfredol, byddwn yn gofyn i chi:

  • roi gwybodaeth gywir i ni;
  • rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd.

Os hoffech wybod mwy am

  • yr wybodaeth sydd gennym amdanoch a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau;
  • y cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth;
  • ein cyfarwyddiadau i'r staff ynghylch sut i gasglu, defnyddio a dileu eich gwybodaeth bersonol; neu
  • sut rydyn ni'n cadarnhau fod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol.

anfonwch e-bost at dataprotectionofficer@cymru.gsi.gov.uk neu ysgrifennwch at yr Uned Hawl i Wybodaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Os hoffech wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol anfonwch e-bost at complaints@cymru.gsi.gov.uk neu ysgrifennwch at yr Uned Cwynion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, materion preifatrwydd a rhannu gwybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy anfon e-bost at casework@ico.gsi.gov.uk neu drwy anfon llythyr at y Tîm Cyswllt Cyntaf, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.