Skip to content

Gwasanaethu pobl

Mae ein sefydliad yn gwasanaethu llawer iawn o wahanol bobl, sy'n amrywio o aelodau unigol o'r cyhoedd i fusnesau a sefydliadau eraill ar draws Cymru. Mae darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yn bwysig iawn i ni.

Mae Gwerthfawrogi Pobl yn un o'n gwerthoedd craidd, ac un ffordd o’i gwireddu yw darparu gwasanaeth cryf i'r holl bobl a busnesau a wasanaethir gennym. Yn yr adran hon, cewch wybod sut rydym yn gwneud hyn.

Yr egwyddorion rydym yn eu dilyn

Rydym yn dilyn pum egwyddor graidd gwasanaeth wrth ddatblygu a gweithredu polisïau a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru.

  1. Mynediad: Rydym yn adolygu ein ffordd o weithio er mwyn sicrhau ei bod yn haws i bobl gael gafael ar ein gwasanaethau.
  2. Profiad: Rydym yn ceisio gwella gwasanaethau er mwyn gwella profiad pobl.
  3. Ymateb: Rydym yn datblygu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion ac amgylchiadau pobl ac unrhyw rwystrau a wynebir ganddynt.
  4. Iaith: Rydym yn sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
  5. Adborth: Rydym yn sicrhau ei bod yn hawdd i bobl fynegi eu barn am ein gwasanaethau.

Cefnogi ein staff

I helpu ein staff i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'n cwsmeriaid, rydym wedi datblygu amrywiaeth o offer ac adnoddau. Mae'r rhain yn helpu staff i ddeall ein cwsmeriaid a sut orau i ddiwallu eu hanghenion.

Cysylltu â ni

Mae bod yn barod i dderbyn eich ymholiadau ac ymateb iddynt yn effeithlon yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid. Ein Switsfwrdd Cyswllt Cyntaf sy’n pontio rhwng yr adran 'Cysylltu â ni' ar wefan Llywodraeth  Cymru i'r Llywodraeth ei hun. Mae'n derbyn 200,000 o alwadau a 3,000 o negeseuon e-bost oddi wrth y cyhoedd bob blwyddyn.

Mae gan ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno fannau sydd ar agor i'r cyhoedd. Yn y mannau hynny, cewch wybodaeth am ein gwaith a gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron am ddim ac ymweld â'n caffis.

Gwneud cwyn

Rydym yn croesawu adborth cadarnhaol a negyddol gan bobl Cymru. Weithiau, bydd pobl am wneud cŵyn. Mae’r rhain yn bwysig i ni gan eu bod yn ein helpu i wella.

Os hoffech wneud cŵyn, ewch i’r dudalen Cwynion.