Skip to content

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; awdurdodau’r heddlu, y parciau cenedlaethol a thân ac achub; a chynghorau tref a chymuned.
Mae rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar eu cydberthynas waith â Llywodraeth y Cynulliad yn ffordd bwysig o nodi ffyrdd o wella ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
Mae cydweithio'n agos â grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau, gan gynnwys llywodraeth leol, yn rhan annatod o'n gwaith.

Mae partneriaethau cryf yn fodd i ddatblygu polisïau a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael effaith bositif ar bobl yng Nghymru ac yn dangos ein bod yn defnyddio'n hadnoddau ar y cyd yn y ffordd orau bosibl.

Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLCau)

Caiff CNLCau eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ond maent ar wahân i'n sefydliad ni ac yn gweithredu 'hyd braich' oddi wrth y Gweinidogion. Rydym yn cydweithio â'r CNLCau mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus, o dreftadaeth i faterion gwledig ac addysg, er mwyn pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ceir rhestr lawn o'r CNLCau yn ein tudalennau ar gyrff cyhoeddus.

Llywodraeth leol

Llywodraeth leol yw un o'r prif ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru ac mae'n cyfrif am fwy na thraean o gyllideb Llywodraeth Cymru. Gallwch ddarllen mwy am ein perthynas â'r Awdurdodau Lleol, gan gynnwys y trefniadau ariannu a sut rydym yn cydweithio i weithredu polisïau sy'n hybu dull cydgysylltiedig o lywodraethu yng Nghymru.

Ein perthynas â chyrff allanol

Rydym yn cydweithio’n agos â nifer o sefydliadau allanol – Gwasanaethau Iechyd, y Trydydd Sector, y Sector Preifat, Undebau Llafur a Sefydliadau Addysg Uwch. Bob dwy flynedd, rydym yn gofyn i'n rhanddeiliaid gwblhau arolwg ynghylch gweithio gyda ni. Rydym yn defnyddio canlyniadau'r arolwg i wella'r berthynas rhyngom a sicrhau bod ein partneriaeth yn fwy cynhyrchiol yn y dyfodol. Gallwch ddarllen y canlyniadau diweddaraf ar dudalen Arolwg rhanddeiliaid 2010.