Skip to content

Addysg a Sgiliau

Dolenni perthnasol

Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau.
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
Bywgraffiad Owen Evans

Nodau

Nod yr Adran yw codi safonau a gwella perfformiad y sectorau addysg a sgiliau a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg.

Blaenoriaethau

Ein blaenoriaethau strategol yw:

  • Codi safonau darpariaeth, cyrhaeddiad a seilwaith addysg a hyfforddiant ar draws Cymru fel pod pawb yn gallu cyrraedd eu potensial.
  • Darparu gweithlu sydd â sgiliau addas a chyfleoedd o ansawdd uchel i bob dysgwr.
  • cefnogi unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau i wella lles economaidd a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb trwy gyfrwng addysg a hyfforddiant.
  • gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

Strwythur

Arweinir yr adran gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Ein rôl ni yw eu cefnogi a’u cynghori nhw.

Prif was sifil yr Adran Addysg a Sgiliau yw Owen Evans. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gweithredu ar draws tri maes sy’n gyfrifol am bolisi, cynllunio, cyllid a monitro gwasanaethau yn eu meysydd perthnasol.

  • Ysgolion a Phobl Ifanc – Cwricwlwm, Gwella Dysgu a Datblygiad Proffesiynol, Yr Uned Seilwaith, Rheolaeth ac Effeithiolrwydd Ysgolion, Yr Uned Safonau Ysgolion, Cymorth i Ddysgwyr.
  • Y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes - Cymwysterau a Dysgu, Addysg Bellach, Addysg Uwch, Rheoli’r Rhaglen Trawsnewid, Busnes a Sgiliau.
  •  Uned yr Iaith Gymraeg – Strategaeth, Cynllun Llywodraeth Cymru, Cymraeg yn y Gymuned, y Gymraeg mewn Addysg, gweithredu’r Mesur Iaith.

Mae’r Adran yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant a sgiliau a sefydliadau eraill o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflenwi ein hamcanion.