Skip to content

Y Gwasanaeth Cyfieithu

llythrennau o'r wyddor ar gefndir glas
Nod y Gwasanaeth Cyfieithu yw cefnogi Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog yn unol â'i Chynllun Iaith Gymraeg.

Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad ym mis Ebrill 2005. (Rhwng 1999 a Mawrth 2005, roedd darparu gwasanaethau cyfieithu i'r Llywodraeth yn rhan o gylch gwaith ehangach Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad, cyn gwahanu'r gwasanaethau a'r adnoddau hynny rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad Cenedlaethol.) Dyma’r gwasanaeth cyfieithu mewnol mwyaf yn unrhyw un o adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig. Caiff y Gwasanaeth Cyfieithu ei gydnabod fel canolfan arbenigedd yn Llywodraeth y Cynulliad o ran darparu'r ystod lawn o swyddogaethau cyfieithu a gwasanaethau iaith ehangach.

Mae'r tîm yn darparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig (Saesneg/Cymraeg a Chymraeg/Saesneg) i'r Cabinet a'i Weinidogion ac i holl swyddogion adrannau polisi Llywodraeth y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o destunau, yn amrywio o ddogfennau polisi a dogfennau ymgynghori manwl, i ddeunydd mwy amlwg megis hysbysebion teledu a radio, datganiadau i'r wasg ac arwyddion ffyrdd ar gyfer cefnffyrdd Cymru.
  • Gwasanaethau Cymraeg i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan gynnwys cyfieithu is-ddeddfwriaeth a Mesurau'r Cynulliad;
  • Cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gyfer Gweinidogion y Cabinet;
  • Golygu a phrawfddarllen cyfieithiadau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Cyfieithu;
  • Gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion Llywodraeth y Cynulliad sydd am ddrafftio drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Safoni a rheoli terminoleg, gan gynnwys darparu a chynnal cronfa derminoleg TermCymru a chydweithio yn ehangach â Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y maes terminoleg;
  • Rheoli contract cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad â chyfieithwyr allanol.

Cyfieithu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn unig yw cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cyfieithu. Nid yw'n darparu gwasanaethau cyfieithu i ieithoedd tramor nac i ieithoedd cymunedol, ac nid yw chwaith yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar gyfer y cyhoedd. Mae Llinell Gyswllt gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n darparu cyfieithiadau byrion am ddim. Mae cyfeirlyfr o gyfieithwyr hefyd ar gael ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Gwefan: Bwrdd yr Iaith Gymraeg 
Gwefan: Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Strwythur

Un o wasanaethau canolog Llywodraeth y Cynulliad yw'r Gwasanaeth Cyfieithu - un o ganghennau’r Is-adran Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd (KIMD), a honno yn ei thro yn rhan o’r Adran Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol (CISD).

Yng Nghaerdydd y mae'r brif swyddfa, ond mae cyfieithwyr Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio ledled Cymru mewn swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Bedwas ac yn cydweithio â chwmnïau cyfieithu ac â chyfieithwyr ar eu liwt eu hunain ar draws Cymru gyfan a'r tu hwnt.