Skip to content

Gyrfaoedd

Dolenni perthnasol

Dewch i weld pa swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd
Pentwr o bapurau newydd
Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn cyflogi cyfieithwyr profiadol sydd wedi hen ennill eu plwyf a chyfieithwyr llai profiadol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau.

Mae’r sgiliau y bydd eu hangen yn ddyddiol yn y Gwasanaeth Cyfieithu yn amrywio o gyfieithu ysgrifenedig i olygu a phrawfddarllen testunau; cyfieithu deddfwriaethol; darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus a phreifat; paratoi deunydd cyhoeddusrwydd (gan gynnwys hysbysebion teledu); a chynnal a chadw pecynnau TGCh i wella effeithlonrwydd y broses gyfieithu.

Y cyfieithwyr

Fel arfer, bydd disgwyl i gyfieithwyr ar lefel Swyddogion Gweithredol (EO) feddu ar

  • sgiliau cyfieithu sylfaenol da o’r Saesneg i’r Gymraeg ac fel arall
  • ymwybyddiaeth o’r cyd-destun gwleidyddol y mae cyfieithu’n rhan ohono yn y Llywodraeth
  • ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau.

Bydd cyfieithwyr EO yn gweithio dan oruchwyliaeth cyfieithydd profiadol. Caiff cyfieithwyr newydd ar y lefel hon hyfforddiant yn y prif agweddau ar waith y Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cyfieithu ar y pryd.

Bydd cyfieithwyr ar lefel Swyddogion Gweithredol Uwch (HEO) fel arfer yn gyfieithwyr profiadol sy'n meddu ar sgiliau iaith ardderchog ac sy'n medru gwneud gwaith o safon uchel heb oruchwyliaeth barhaus. Maent hefyd yn goruchwylio ac yn mentora cyfieithwyr sy'n datblygu eu sgiliau. Bydd ganddynt ddealltwriaeth dda o'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio a byddant hefyd yn ymwybodol o sensitifrwydd a chyd-destun y gwaith. Byddant yn ymrwymedig i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau eu hunain a meithrin sgiliau eu cydweithwyr. Bydd rhai o'r cyfieithwyr hyn yn canolbwyntio ar gyfieithu ysgrifenedig, bydd eraill yn cyfieithu ar y pryd neu'n gwneud gwaith golygu, eraill yn cyfrannu at safoni terminoleg, gan ddibynnu ar eu cryfderau a'u diddordebau fel cyfieithwyr.

Caiff pob aelod o staff newydd gyfle i feithrin sgiliau cyfieithu ar y pryd. I gyfieithu ar y pryd yn effeithiol mae angen:

  • meddwl chwim
  • dealltwriaeth drylwyr o Gymraeg llafar
  • meistrolaeth o Saesneg llafar
  • dealltwriaeth o sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio
  • y gallu i weithio dan bwysau.

Mae'n bosibl hefyd y bydd modd ichi weithio fel golygydd/darllenydd proflenni yn y Gwasanaeth Cyfieithu. I fod yn olygydd da mae angen:

  • llygad craff am fanylion
  • gafael dda ar ramadeg
  • sgiliau prawfddarllen neu'r parodrwydd i'w meithrin
  • parodrwydd i lynu wrth ein canllaw arddull a'i ddatblygu.

Mae tîm bach o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu yn cynnal ac yn datblygu TermCymru. Rhaid wrth gyfuniad o amrywiaeth o sgiliau o fewn y tîm i wneud y gwaith hwn gan gynnwys:

  • sgiliau cadw cofnodion
  • sgiliau cyfathrebu a marchnata
  • y gallu i drin cronfeydd data a throsglwyddo gwybodaeth yn electronig
  • cynefindra â'r feddalwedd rheoli terminoleg ddiweddaraf
  • adnabyddiaeth drylwyr o'r safonau terminoleg rhyngwladol a datblygiadau yn y maes yng Nghymru a'r tu hwnt
  • sgiliau ymchwil
  • gwybodaeth gadarn o'r Gymraeg a'r Saesneg yn eu holl gyweiriau.

Bydd y cyfieithwyr deddfwriaethol, sydd ar lefel HEO, yn canolbwyntio ar baratoi testun Cymraeg y ddeddfwriaeth a noddir gan Weinidogion Cymru. Rhaid wrth feddwl dadansoddol, dychymyg a mynegiant clir a meistrolaeth lwyr o ramadeg a theithi'r Gymraeg a'r Saesneg i wneud gwaith o'r fath. Bydd y cyfieithwyr deddfwriaethol yn cydweithio'n agos â chyfreithwyr Llywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Prif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru. Mae hyfforddiant neu gymhwyster cyfreithiol yn fuddiol, ond ddim yn hanfodol, er mwyn gwneud y swyddi hyn, a darperir hyfforddiant yn yr agweddau perthnasol ar gyfieithu deddfwriaethol a'r gyfraith yn ôl yr angen.

Y rheolwyr

Mae'r tîm rheoli yn cynnwys Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu (Gradd 7), y Prif Gyfieithydd Deddfwriaethol, y Rheolwr Ansawdd Gwasanaethau Cyfieithu a'r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Cyfieithu (Uwch-Swyddogion Gweithredol (SEO)). Er bod y rheolwyr yn canolbwyntio ar eu dyletswyddau rheoli, disgwylir iddynt allu cyfrannu at y gwaith cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu deddfwriaethol, terminoleg a golygu yn ôl yr angen. Cânt eu recriwtio drwy brawf ar sail eu sgiliau iaith arbenigol yn ogystal â’u sgiliau rheoli.

Y gweinyddwyr

Wrth graidd y Gwasanaeth Cyfieithu mae tîm o weinyddwyr sy’n gyfrifol am yr holl agweddau gweinyddol ar waith y gwasanaeth, gan gynnwys yr ymwneud dyddiol â chwsmeriaid, logio a thracio gwaith, a'r cyswllt â chyfieithwyr mewnol ac allanol. Caiff y tîm ei arwain gan Reolwr Swyddfa (ar lefel HEO), dau Is-reolwr Swyddfa a Swyddog Prosesau Cyfieithu (ar lefel EO) a nifer o weinyddwyr ar lefel Swyddogion Cymorth Tîm.

Lleoliad

Mae'n nod gan y Gwasanaeth Cyfieithu roi cyfle i gyfieithwyr weithio yn swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad ledled Cymru. Eisoes mae timau o gyfieithwyr yn gweithio yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Caerdydd a Bedwas, a'r gobaith yw ehangu'r arfer hwnnw.

Yng Nghaerdydd mae prif swyddfa'r Gwasanaeth, ac o'r swyddfa honno y caiff y gwaith ei reoli a'i weinyddu. Yng Nghaerdydd, felly, y lleolir y prif swyddi rheoli a gweinyddu.

Swyddi gwag

Caiff swyddi gwag eu hysbysebu ar y tudalennnau Recriwtio.

Ymweliadau

Os hoffech drefnu ymweliad â'r Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer eich sefydliad, neu os hoffech drefnu bod aelod o'n tîm yn cwrdd â chi i drafod cyfleoedd gyrfa neu brofiad gwaith, anfonwch neges e-bost i'r blwch post isod.

E-bost: Ymholiadau'r Gwasanaeth Cyfieithu