Skip to content

Cyfieithu ar y pryd

Llun o ystafell gynadledda wag drwy ffenestr bwth cyfieithu ar y pryd lle ceir meicroffonau a switsfyrddau
Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gyfer Gweinidogion y Cabinet. Mae hefyd yn rheoli contract cyfieithu ar y pryd a ddefnyddir yn rheolaidd gan swyddogion polisi i gomisiynu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd.

Darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn unig, a hynny er mwyn hybu defnydd o'r Gymraeg ac i alluogi pobl ddi-Gymraeg i wrando ar gyfraniadau a wneir drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff pob cyfraniad a wneir drwy gyfrwng y Gymraeg ei gyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.

Wrth i'r cyfarfodydd hyn gael eu cynnal ledled Cymru, darperir y gwasanaeth lle bynnag y bydd galw amdano. Ar hyn o bryd, mae aelodau o'r tîm cyfieithu ar y pryd ymhlith nifer o gyfieithwyr o Gymru sy'n hyfforddi i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i Weinidogion Cymru ac i Bwyllgor y Rhanbarthau yn sgil hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhai o gyfarfodydd y sefydliadau Ewropeaidd.