Skip to content

Cyfieithu deddfwriaethol

Llyfrau cyfreithiol ar silffoedd mewn llyfrgell
Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn cydweithio'n agos â'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn darparu iddi wasanaethau cyfieithu, drafftio, diwygio, adolygu ieithyddol, prawfddarllen a chyngor ieithyddol.

Diben y gwasanaethau hyn yw cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru i lunio drafftiau dwyieithog o Offerynnau Statudol a Mesurau’r Cynulliad a noddir gan Weinidogion Cymru yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad a Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dim ond dau sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy'n llunio mwy o Offerynnau Statudol na Llywodraeth y Cynulliad, a chaiff y mwyafrif helaeth ohonynt eu gwneud yn ddwyieithog gyda chymorth y cyfieithwyr deddfwriaethol. Ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym, mae’r cyfieithwyr deddfwriaethol hefyd yn helpu i baratoi testun Cymraeg Mesurau’r Cynulliad a noddir gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu wedi cyhoeddi geirfa a chanllawiau arddull ar gyfer cyfieithu a drafftio deddfwriaeth yn Gymraeg. Cawsant eu paratoi’n wreiddiol er mwyn helpu’r cyfieithwyr deddfwriaethol yn eu gwaith ac er mwyn sicrhau cysondeb ar draws holl ddeddfwriaeth y Cynulliad. Maent wedi’u cyhoeddi ar y we yn y gobaith y byddant yn ddefnyddiol i eraill sy’n cyfieithu deddfwriaeth ac i unrhyw un sy’n drafftio deddfwriaeth yn Gymraeg.