Skip to content

Darparu gwasanaethau ar gontract

dau berson yn ysgwyd llaw dros ddalen o bapur a beiro, a bysellfwrdd cyfrifiadur yn y cefndir
Daeth contract cyfieithu newydd Llywodraeth y Cynulliad i rym ar 1 Ebrill 2007, contract a reolir gan y Gwasanaeth Cyfieithu ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'r broses gaffael eisoes wedi digwydd, a'r contract bellach yn ei le. Serch hynny, pe bai gennych ddiddordeb mewn tendro am waith cyfieithu yn y dyfodol, croeso i chi anfon eich manylion cyswllt i'r blwch post isod gan nodi bod gennych ddiddordeb mewn cyflwyno tendr ar gyfer gwaith yn ystod y broses gaffael nesaf.

Cadwn eich manylion yn ddiogel hyd nes y daw’r contract presennol i ben ac y cynhelir y broses gaffael ffurfiol nesaf. (Nid oes modd i'r Gwasanaeth Cyfieithu anfon gwaith at unrhyw unigolyn na chwmni nad ydynt wedi tendro am gontract a chael cynnig contract ffurfiol i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i Lywodraeth y Cynulliad.)

E-bost: Ymholiadau'r Gwasanaeth Cyfieithu

Gwefan: Gwerthwchigymru