Skip to content

Golygu, prawfddarllen a gwirio testun

llaw â beiro ynddi sy'n ysgrifennu ar ddarn o bapur
Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu yn darparu gwasanaeth golygu, prawfddarllen a gwirio testunau Cymraeg.

Golygu a phrawfddarllen

Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu’n darparu gwasanaeth golygu a phrawfddarllen ar gyfer cyhoeddiadau Llywodraeth y Cynulliad. Caiff y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau eu prawfddarllen, yn gyhoeddiadau printiedig a chyhoeddiadau'r wefan, a hynny er mwyn sicrhau eu hansawdd a chysondeb llwyr a'r fersiynau Saesneg cyfatebol.

Caiff y gwaith hwn ei wneud mewn partneriaeth â'r timau sy'n gyfrifol am ddylunio, cysodi ac argraffu cyhoeddiadau Llywodraeth y Cynulliad. 

Gwirio testun

Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu hefyd yn darparu gwasanaeth gwirio testun, a hynny er mwyn darparu gwasanaeth sicrhau ansawdd i swyddogion ar draws Llywodraeth y Cynulliad sy'n awyddus i ddrafftio yn Gymraeg. Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu'r arbenigedd angenrheidiol i gynnig cymorth o’r fath.