Skip to content

Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Dolenni perthnasol

Bywgraffiad Michael Hearty.
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog Cyllid.
Taenlen

Mae Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad yn canolbwyntio ar wella’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ac yn defnyddio arian er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Nodau

Nod yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad yw:

  • Cynghori’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, y Cabinet ac Uwch-swyddogion y Llywodraeth Cymru ar faterion ariannol
  • Datblygu cynllun busnes ar gyfer Llywodraeth Cymru
  • Rhoi adroddiad ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru er mwyn gwella perfformiad ymhellach
  • Gweithredu a datblygu’r systemau ariannol a pherfformio sydd eu hangen er mwyn cefnogi gweithgareddau Llywodraeth Cymru
  • Rheoli a diogelu adnoddau ac arian cyhoeddus
  • Rhoi ystadegau a thystiolaeth er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, ymchwilio a thrafod
  • Darparu dulliau dadansoddi mewnol effeithiol o wasanaethau gwrth-dwyll a chyllid
  • Cynghori ar effeithiolrwydd perfformiad a gweithgareddau allweddol busnes
  • Gwella pwrcasu ar draws sector cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau gwerth gorau am arian.

Blaenoriaethau

Nod y gyfarwyddiaeth yw:

  • Sicrhau gwerth am arian drwy ddarparu sylfaen dystiolaeth dda sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau
  • Darparu’r offer a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar adrannau eraill o Lywodraeth Cymru i gyflawni a monitro’u blaenoriaethau allweddol
  • Bod yn agored ac yn glir o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’i harian;
  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar draws Sector Cyhoeddus Cymru.

Strwythur

Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth yw Michael Hearty.