Skip to content

Ein rôl fel cyflogwr

Dolenni perthnasol

Mae ymrwymiad a gwerthoedd gweision sifil Llywodraeth Cymru yn datgan sut yr ydym yn mynd ati i wneud ein gwaith.
Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o ffeithiau a ffigurau yn rheolaidd a fydd yn eich helpu i ddeall sut rydym yn rhedeg ein sefydliad.
Rydym yn cynnig ystod enfawr o gyfleoedd gyrfa ledled Cymru ac yng ngweddill y byd.
Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi oddeutu 5,590 o staff yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Un o'n gwerthoedd craidd yw Gwerthfawrogi Pobl, ac mae hyn yn cynnwys ein staff yn ogystal â'r bobl a wasanaethwn. Rydym yn ymdrechu i fod yn deg ac yn gefnogol, a sicrhau bod pobl yn cael y gorau o'u gwaith ac yn cyrraedd eu potensial llawn. Yn yr adran hon, cewch wybod mwy am ein gwerthoedd a sut rydym yn cefnogi'r bobl sy'n gweithio i ni.

Ein gwerthoedd a’n cyflawniadau

Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr rhagorol. Mae sicrhau bod y bobl sy'n gweithio i ni yn ymroddedig i'w gwaith ac yn cael eu trin yn deg fel gweithwyr yn bwysig iawn i ni. Yn yr adran hon, cewch wybod am rai o'r achrediadau rydym wedi'u cael a rhai o'n cyflawniadau yn y maes hwn.

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Rydym am i Lywodraeth Cymru fod yn lle cynhwysol a boddhaus i weithio ynddo. Mae nifer o fentrau ar waith i'n helpu i gyflawni hyn. Yn yr adran hon, gallwch ddarllen sut rydym yn ceisio rhoi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt ac yn eu gwasanaethu.