Skip to content

Ein cyflawniadau fel cyflogwr

Dolenni perthnasol

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o ffeithiau a ffigurau yn rheolaidd a fydd yn eich helpu i ddeall sut rydym yn rhedeg ein sefydliad.
Rydym wedi cael nifer o achrediadau am ein gwaith fel cyflogwr. Mae'r cyflawniadau hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac i ddarparu'r amodau gweithio, y gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein staff i ddatblygu. Rydym yn falch iawn o'r cyflawniadau hyn a byddwn yn ceisio adeiladu arnynt yn y dyfodol.

Ein perthynas â'r Undebau Llafur

Ym mis Gorffennaf 2009, llofnodwyd cytundeb arall gyda'r Undebau Llafur cydnabyddedig. Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar y berthynas waith ardderchog sydd eisoes yn bodoli rhwng y rheolwyr a'r Undebau yn ein sefydliad ac yn cadarnhau'r ymrwymiad ar y ddwy ochr i barhau i gydweithio mewn partneriaeth ar yr holl faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i ni.

Ymgysylltu â gweithwyr

Yn ôl astudiaethau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, mae gan sefydliadau llwyddiannus weithwyr sy'n ymroddedig i’w gwaith. Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar berfformiad gweithwyr ac rydym yn sicrhau bod ein gweithwyr ni’n cael y gefnogaeth amrywiol sydd ei hangen arnynt. Mae ein hymchwil mewnol yn dangos bod lefel uchel o ymgysylltiad ymhlith gweision sifil Llywodraeth y Cynulliad o'i gymharu ag adrannau eraill y llywodraeth.

Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP)

Mae'r IiP yn wobr allanol sy'n dangos ein hymrwymiad i'n pobl yn fewnol ac yn allanol. Cawsom ein hachrediad cyntaf fel sefydliad IiP yn 1999. Ym mis Mehefin 2009, cawsom y wobr Statws Arian, sy'n anarferol ar gyfer sefydliad cymhleth o'n maint ni. Ni yw'r sefydliad llywodraethol canolog cyntaf yn y DU i gael y wobr arian.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr IiP ar eu gwefan [gwefan allanol]

Achrediad y Strategaeth Sgiliau

Cymeradwywyd Strategaeth Sgiliau’r Llywodraeth ym mis Ionawr 2008 gan holl gyflogwyr y llywodraeth ganolog. Cyfarfu panel adolygu yn 2007 i asesu cynnydd holl adrannau'r llywodraeth a'r gweinyddiaethau datganoledig. Cafodd Llywodraeth Cymru y sgôr uchaf ym mhob maes yn ein Strategaeth Sgiliau, a oedd yn gamp na welwyd ei thebyg o'r blaen.

Stonewall

Ymarfer meincnodi cenedlaethol diffiniol yw Mynegai Stonewall sy'n dangos cyflogwyr gorau Prydain o ran recriwtio staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Rydym yn falch o fod yn un o’r 100 cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2009. Mae Llywodraeth y Cymru yn y trydydd safle yng Nghymru ac yn y 63ain safle yn y DU gyfan.

Ceir rhagor o wybodaeth am Stonewall ar eu gwefan [gwefan allanol].

Ein strwythur cyflogau

Ceir gwybodaeth am ein strwythur cyflogau yn yr adran Ffeithiau a Ffigurau.