Skip to content

Cyflogau’r Uwch Wasanaeth Sifil

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r tabl cyflogau ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil yn cynnwys bandiau cyflog y Cyfarwyddwyr, y Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Ysgrifennydd Parhaol.

Caiff yr wybodaeth yn y tabl ei diweddaru bob chwe mis ac roedd yn gywir ar 1 Mawrth 2013.  Swyddfa Cabinet y DU sy’n pennu graddfeydd cyflog Uwch Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru.  

Tâl Amrywiadwy yr Uwch Wasanaeth Sifil

Mae Tâl Amrywiadwy yn cael ei gynnig fel rhan o system tâl yn ôl perfformiad yr Uwch Wasanaeth Sifil. Mae’n cael ei dalu fel un taliad ar wahân i gydnabod  perfformiad ac mae’r swm yn cael ei bennu wedi diwedd y flwyddyn berfformiad, ee mae tâl amrywiadwy a wneir yn y flwyddyn ariannol 2010-2011 yn seiliedig ar berfformiad yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010. Caiff taliad ei wneud ar sail pro rata ar gyfer staff rhan-amser. Nid yw pawb yn gymwys am daliad.