Skip to content

Ein strwythur rheoli

Dolenni perthnasol

Bandiau cyflog ar gyfer y Cyfarwyddwyr, y Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Ysgrifennydd Parhaol.
Pennaeth ein sefydliad yw'r Ysgrifennydd Parhaol, Derek Jones. Yn ei gefnogi y mae tîm o Gyfarwyddwyr Cyffredinol ac aelodau eraill o'r Uwch Wasanaeth Sifil sy'n arwain ein gwaith amrywiol. Yn yr adran hon, cewch wybod am eu swyddogaethau a sut rydym yn rheoli ein sefydliad i gefnogi'r Gweinidogion.

Yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Bwrdd

Rydym yn sefydliad cymhleth sy'n gweithio i wella sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru. Er mai Derek Jones Ysgrifennydd Parhaol sy'n arwain ein sefydliad yn gyffredinol, mae ein hadrannau unigol wedi'u trefnu o dan Gyfarwyddwyr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr. Mae’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol, ynghyd â'n Cyfarwyddwyr Anweithredol, yn gwasanaethu ar y Bwrdd dan gadeiryddiaeth Derek Jones. Y Bwrdd sy'n gyfrifol am y penderfyniadau strategol allweddol o ran y modd y datblygir ein sefydliad i gefnogi’r Cabinet a’r Gweinidogion nawr ac yn y dyfodol, ac mae hefyd yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn y mae’r Gweinidogion yn ei ddisgwyl.

Is-bwyllgorau'r Bwrdd

Mae gan y Bwrdd Is-bwyllgorau sydd hefyd yn ein helpu i wneud penderfyniadau pwysig am ein gwaith. Mae gennym ddau Is-bwyllgor sy'n cynghori'r Bwrdd ar faterion allweddol fel Llywodraethu Corfforaethol a rheoli’r Uwch Wasanaeth Sifil. 

Y Grŵp Gweithrediadau

Caiff y Bwrdd gefnogaeth hefyd gan y Grŵp Gweithrediadau. Mae'r Grŵp Gweithrediadau'n ein helpu i wella'r ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg. Ei brif swyddogaeth yw sicrhau ein bod yn gweithio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Mae'r Grŵp yn gwneud penderfyniadau pwysig am y ffordd y cawn ein rheoli o ddydd i ddydd, fel bod y Bwrdd yn gallu canolbwyntio ar waith strategol i gefnogi'r Gweinidogion.

Yr Uwch Wasanaeth Sifil

Ar 1 Medi 2012, roedd 123 aelod parhaol o’r Uwch Wasanaeth Sifil yn Llywodraeth Cymru, sef ein Cyfarwyddwyr Cyffredinol, ein Cyfarwyddwyr a'n Dirprwy Gyfarwyddwyr. Caiff aelodau’r Gwasanaeth Sifil Cartref eu penodi ar sail teilyngdod. Gallwch ddarllen mwy am eu swyddogaethau a'u cyfrifoldebau yn Dolenni perthnasol.