Skip to content

David Sissling

David Sissling
Cyfarwyddwr Cyffredinol - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Gweithio yn y sector preifat yr oedd David Sissling ar ddechrau ei yrfa.  Yn 1983, ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac yn 1998, cafodd ei benodi yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Brenhinol Caerlŷr.

Wedi hynny, cafodd David ei benodi yn Brif Weithredwr Awdurdod Iechyd Swydd Northampton ac yna’n Brif Weithredwr  Awdurdod Iechyd Strategol Swydd Caerlŷr, Swydd Northampton a Rutland. Rhwng 2006 a 2008 bu’n gweithio fel Prif Weithredwr Awdurdod Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon yn Stormont cyn ymuno â thîm Gofal Iechyd i Lundain ym mis Chwefror 2008.

Ar 1 Hydref 2009, sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a phenodwyd David yn Brif Weithredwr y Bwrdd.

Ym mis Ionawr 2011, penodwyd David yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru.  Dechreuodd ar ei swydd ar 31 Mai 2011.