Skip to content

Dydd Mawrth 20 Mawrth 2012 – Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Gwasgfa Llywodraeth y DU ar incymau yng Nghymru, y polisi ynni a’r achosion diweddar o’r frech goch oedd rhai o’r materion a godwyd yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw.
Rhestr lawn o'r atebion i gwestiynau llafar

Atebodd y Prif Weinidog Carwyn Jones gwestiynau ar:
  • Y blaenoriaethau ar gyfer Gorllewin De Cymru
  • Gwasgfa Llywodraeth y DU ar incymau yng Nghymru
  • Y gostyngiad mewn CMC yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd
  • Brand Cymru
  • Camau i sicrhau costau byw fforddiadwy 
  • Sicrhau bod gan gartrefi ledled Cymru gysylltiad llawn â rhwydweithiau carthffosydd cyhoeddus
  • Blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru
  • Datblygu gwasanaethau ailalluogi yng Nghymru
  • Canolfan Gwylwyr y Glannau Abertawe
  • Digartrefedd ymysg pobl iau
  • Achosion diweddar o’r frech goch yng Nghymru
  • Hybu buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru yng nghyllideb 2012
  • Trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â pholisi ynni
  • Y blaenoriaethau ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Y blaenoriaethau polisi ar gyfer Mynwy dros y 12 mis nesaf
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig
  • Datganoli mwy o bwerau dros brosiectau ynni cynaliadwy i Gymru
Gwyliwch Gwestiynau’r Prif Weinidog ar Senedd TV a Democratiaeth Fyw y BBC.
 
Gellir gweld cofnod llawn o Gwestiynau’r Prif Weinidog ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.