Skip to content

Amserlen

Mae llawer wedi digwydd ers datganoli nôl ym 1999.

2011

4 Mawrth: Refferendwm ar roi rhagor o bwerau i Gymru. Pleidleisiodd 63.5% o blaid.

5 Mai: Etholiadau’r Pedwerydd Cynulliad. Llafur yn ffurfio llywodraeth leiafrifol, gyda 30 sedd.

12 Mai: Y Frenhines yn cymeradwyo penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru. Y Prif Weinidog yn cyhoeddi mai Llywodraeth Cymru fydd enw Llywodraeth Cynulliad Cymru o hyn ymlaen.

13 Mai: Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi ei Gabinet newydd.

7 Mehefin: Y Frenhines yn agor pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn swyddogol.

12 Gorffennaf: Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, yn annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf.

26 Gorffennaf: Cynhaliwyd cyfarfod llawn o Gabinet Llywodraeth Cymru yn y Gogledd am y tro cyntaf.

27 Medi: Y Prif Weinidog yn lansio’r Rhaglen Lywodraethu – ein cynllun gweithredu 5 mlynedd sy’n mesur canlyniadau ac yn canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru.

2010

6 Gorffennaf: Cyhoeddi adroddiad terfynol Comisiwn Holtham.

23 Hydref: Staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symud i’r swyddfa newydd yn Llandudno.

2009

7 Gorffennaf: Comisiwn Holtham yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ynghylch ariannu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, gan argymell newidiadau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei hariannu gan y Trysorlys o dan Fformiwla Barnett.

18 Tachwedd: Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan ar ddyfodol llywodraethu yng Nghymru i’r Prif Weinidog Rhodri Morgan a’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.

7 Rhagfyr: Rhodri Morgan yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog.

10 Rhagfyr: Y Frenhines yn cymeradwyo penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru ac mae’n penodi ei Gabinet.

2008

8 Ebrill: Lansio 'Cynllun Cyflenwi Cymru'n Un', sy'n nodi 228 ymrwymiad penodol o ddogfen Cymru'n Un.

9 Gorffennaf: Y Frenhines yn cymeradwyo Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG, sy'n rhoi mynediad tecach a mwy cyfartal i gleifion y GIG at iawndal pan aiff pethau o chwith. Dyma'r Mesur Cynulliad cyntaf i ennill Cydsyniad Brenhinol, a'r Gyfraith gyntaf i gael ei gwneud o dan y pwerau newydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

7 Hydref: Comisiwn Holtham yn dechrau ar y gwaith o werthuso sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei hariannu.

2007

3 Mai: Etholiadau'r trydydd Cynulliad. Llafur yn ennill gyda lleiafrif o 26 o seddau.

25 Mai: Ar ôl cael ei enwebu gan Aelodau'r Cynulliad, y Frenhines yn penodi Rhodri Morgan yn Brif Weinidog. Hynny'n sbarduno gwahanu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfreithiol oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

5 Mehefin: Y Frenhines yn agor trydydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

12 Mehefin: Cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) cyntaf, yn ymwneud ag Addysg a Hyfforddiant (Anghenion Dysgu Ychwanegol).

27 Mehefin: Cyhoeddi clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Penodi Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru, yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru. Y Llywodraeth Glymblaid yn llofnodi 'Cymru'n Un - Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru' sef rhaglen waith Llywodraeth y Cynulliad am y pedair blynedd nesaf.

23 Hydref: Syr Emyr Jones-Parry, cyn-lysgennad Prydain i'r Cenhedloedd Unedig, yn cadeirio Confensiwn Cymru Gyfan i baratoi ar gyfer refferendwm ar roi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

2006

1 Mawrth: Ei Mawrhydi'r Frenhines yn agor y Senedd yn swyddogol, sef cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

25 Gorffennaf: Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei phasio. Ymhlith y pwerau y mae'r Ddeddf yn eu rhoi i'r Cynulliad mae'r grym i greu cyfreithiau Cymru, sef Mesurau'r Cynulliad.

2005

17 Mai: Gwnaed datganiad ar ddeddfwriaeth i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod Araith y Frenhines.

15 Mehefin: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'i Phapur Gwyn, Trefn Lywodraethu Well i Gymru, sy'n nodi cynigion i fwrw ymlaen â datganoli Cymru.

2004

31 Mawrth: Cyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard. Ymhlith ei argymhellion mae rhoi mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad.

14 Gorffennaf: Y Prif Weinidog yn cyhoeddi'r bwriad i uno Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, ACCAC ac ELWa â Llywodraeth Cynulliad Cymru.

2003

1 Mai: Etholiadau'r Ail Gynulliad. Y Blaid Lafur yn ennill yr etholiad gyda 30 o seddi.

8 Mai: Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, yn cyhoeddi'r Cabinet newydd.

5 Mehefin: Y Frenhines yn agor Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru'n swyddogol.

2002

13 Mehefin: Y Frenhines yn annerch y Cynulliad ar achlysur ei Jiwbilî Aur.

31 Gorffennaf: Comisiwn Richard. Y Prif Weinidog yn penodi Comisiwn Annibynnol, gyda'r Arglwydd Richard o Rydaman, aelod Llafur o Dŷ'r Arglwyddi, yn ei gadeirio, i adolygu pwerau'r Cynulliad a'r system etholiadol yng Nghymru.

2001

1 Mawrth: Cynnal seremoni torri'r 'dywarchen' ar y safle lle bydd cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru - y Senedd - ym Mae Caerdydd.

30 Hydref: Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y Gwir Anrhydeddus Tony Blair AS, yn annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf.

27 Tachwedd: Prif Weinidog Cymru'n cyhoeddi mewn Cyfarfod Llawn mai Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r term fydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddisgrifio'r Cabinet. Bydd y term Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r corff o 60 o Aelodau'r Cynulliad.

2000

24 Ionawr: Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ei gynllun cyflenwi cyntaf, 'Gwell Cymru', cynllun deng mlynedd gyda thargedau i wella bywyd pawb yng Nghymru.

9 Chwefror: Alun Michael yn ymddiswyddo fel Prif Ysgrifennydd y Cynulliad. Y Cabinet yn ethol y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC AS fel y Prif Ysgrifennydd dros dro.

15 Chwefror: Rhodri Morgan yn cael ei ethol yn swyddogol fel Prif Ysgrifennydd y Cynulliad.

5 Hydref: Cyhoeddi partneriaeth glymblaid rhwng y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mike German AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dod yn rhan o Gabinet Cymru o dan Gytundeb y Glymblaid.

16 Hydref: Y Cabinet yn mabwysiadu'r term 'Gweinidog' yn lle 'Ysgrifennydd'.

17 Hydref: Rhodri Morgan a Michael German yn llofnodi'r Cytundeb Partneriaeth 'Rhoi Cymru yn Gyntaf: Partneriaeth er budd Bobl Cymru'.

1999

6 Mai: Etholiadau’r Cynulliad Cyntaf. Y Blaid Lafur yn ennill yr etholiad gyda lleiafrif.

12 Mai: Y Cyfarfod Llawn cyntaf. Ethol y Gwir Anrhydeddus Alun Michael AC AS yn Brif Ysgrifennydd Cymru.

26 Mai: Seremoni agoriadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei Mawrhydi Y Frenhines yn bresennol.

1 Gorffennaf: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn dod i rym, gan drosglwyddo pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

1998

31 Gorffennaf: Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (GOWA 1998) yn cael ei phasio gan arwain at greu'r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru.

1997

18 Medi: Refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru. 50.3% o bobl Cymru'n pleidleisio o blaid 'Rwy'n cytuno y dylid sefydlu Cynulliad i Gymru'.