Skip to content

Rhaglen Lywodraethu

Yr adroddiad blynyddol

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i wireddu’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen. Mae’n rhoi cyfle i chi farnu i ba raddau rydym wedi cyflawni ein haddewidion.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn dangos beth rydym yn ei wneud i wella bywydau pobl Cymru. Mae hefyd yn esbonio sut y byddwn yn mesur effaith y gwaith hwnnw.

Tryloywder ac atebolrwydd 

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ynghylch yr hyn rydym ni, fel Llywodraeth, yn ei wneud. Mae hynny’n bwysig oherwydd dylai pobl Cymru wybod beth mae eu Llywodraeth yn ei wneud ar eu rhan. Mae hefyd yn ddisgyblaeth i ni ein hunain, er mwyn sicrhau bod pob rhan o Lywodraeth Cymru a’n partneriaid yn canolbwyntio ar gyflawni.

Mae’r adroddiad yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i wireddu’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen. Mae hefyd yn cynnwys yr holl ddata sydd ar gael ar gyfer y dangosyddion sy’n mesur i ba raddau y cyflawnwyd ein rhaglenni a’r dangosyddion ar y canlyniadau allweddol.

Data cymharol

Rydym wedi defnyddio gwybodaeth gymharol yn ein hadroddiad blynyddol, pryd bynnag y bo modd. Mae hyn yn cynnwys cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â honno yn y Deyrnas Unedig gyfan a thu hwnt. Nodir y ffynhonnell yn glir os daw’r data o ystadegau swyddogol. Os caiff data ei gasglu fel rhan o waith arferol Llywodraeth Cymru o fonitro ei gweithgareddau ei hun a’i phartneriaid, nodir hynny’n glir hefyd. Cyflwynir y data a’r dadansoddiad ohono mor eglur â phosibl. 

Blwyddyn Un

Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf hwn ar y Rhaglen Lywodraethu yn nodi pen-blwydd cyntaf y weinyddiaeth hon. Mae llawer o’r data yn flynyddol ac felly mae’n naturiol fod oedi o ran gallu amryw o’r dangosyddion i ddangos yr effaith y mae’r Llywodraeth yn ei chael. Byddwn yn parhau i baratoi adroddiadau blynyddol. Bydd hynny’n rhoi cyfle i bobl Cymru weld sut rydym yn dod yn ein blaenau a barnu i ba raddau rydym yn gwireddu ein hymrwymiadau drwy gydol ein tymor fel llywodraeth.