Skip to content

Rhaglen Lywodraethu

Navigation

Addysg

3

Dangosyddion olrhain

Sut y byddwn yn gwybod bod ein camau’n dilyn y trywydd iawn?

Gwella profiadau yn ystod y blynyddoedd cynnar:
  • Nifer y plant sy’n elwa ar ddarpariaeth feithrin o dan y cynllun Dechrau’n Deg.
  • % y plant Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn yn 47 mis oed.
  • % y plant Dechrau’n Deg sydd wedi cyrraedd eu cerrig milltir o ran datblygiad yn dair oed - fel y’u mesurir gan yr offeryn Asesu Datblygiad.
  • Adroddiadau gwerthuso am y cynllun Dechrau’n Deg, y Timau Cymorth Dwys i Deuluoedd a Teuluoedd yn Gyntaf.
Gwella cyrhaeddiad mewn ysgolion:
  • % presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • % yr ysgolion a arolygir sy’n cael eu graddio’n dda neu’n rhagorol gan Estyn.
  • Gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 4 o’i gymharu â lefelau amddifadedd.
Datblygu addysg cyfrwng Cymraeg:
  • % y dysgwyr Blwyddyn 2 (7 oed) sy’n cael eu hasesu yn Gymraeg (iaith gyntaf).
Gwella Addysg Bellach ac Addysg Uwch:
  • Y niferoedd sy’n aros ym myd addysg ar ôl cyrraedd 16 oed (gan gynnwys ysgolion, Addysg Bellach a hyfforddiant).• % y sefydliadau ôl-16 a arolygir sy’n cael eu hasesu a’u graddio’n dda neu’n rhagorol gan Estyn.
  • Y gyfradd lwyddo ym maes Addysg Bellach.
  • Nifer y sefydliadau Addysg Bellach.
  • % y prifysgolion sy’n gweithredu â throsiant ariannol o dros 75% o gyfartaledd y DU.