Skip to content

Rhaglen Lywodraethu

Navigation

Cydraddoldeb

8

Rhaglen

Y nod: Creu cymdeithas deg heb unrhyw fath o wahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth, ac iddi gymunedau cydlynol a chynhwysol.

Mae’r bennod hon yn cynnig trosolwg o agenda Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb; ceir cyfeiriadau mwy penodol hefyd mewn penodau perthnasol eraill.

Caiff Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2012. Bydd yn cynnwys manylion am y modd y mae’r Llywodraeth yn bodloni’r ddyletswydd gyffredinol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi’r amcanion cydraddoldeb ynghyd â’n hymyriadau allweddol, dulliau o fesur llwyddiant, a’n dangosyddion olrhain cynnydd ar gyfer y maes hwn. Caiff Pennod 8 ei diweddaru i adlewyrchu hyn.

Mae’r dangosyddion yn adlewyrchu’r meysydd hynny y ceir data ar eu cyfer. Ceir bylchau sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i’r afael â hwy, er enghraifft drwy gyfrwng yr Arolwg Cenedlaethol. Caiff y Rhaglen Lywodraethu ei diweddaru i adlewyrchu setiau newydd o ddata wrth iddynt ddatblygu.

Lawrlwytho’r bennod hon: