Skip to content

Rhaglen Lywodraethu

Navigation

Cymunedau Gwledig

10

Dangosyddion olrhain

Sut y byddwn yn gwybod bod ein camau’n dilyn y trywydd iawn?

Economi wledig sy’n ffynnu:
  • Arolygon Arsyllfa Wledig Cymru o aelwydydd, busnesau a chynghorau cymuned bob tair blynedd.
  • Monitro a gwerthuso’r dangosyddion sy’n cael eu pennu yn y Cynllun Datblygu Gwledig.
  • Monitro a gwerthuso’r cynllun cyflenwi o dan y Strategaeth Fwyd.
  • Monitro a gwerthuso’r trefniadau i gynorthwyo i gynhyrchu a marchnata cynnyrch bwyd o Gymru, yn ogystal â threfniadau cydweithredol.
  • % taliadau uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin sy’n cael eu talu cyn y Nadolig bob blwyddyn.
  • % y buchesi yng Nghymru sydd wedi’u profi am TB Gwartheg.
  • Adroddiadau gwerthuso ar Ymarferion Cynllunio Wrth Gefn.
Sicrhau bod gan gymunedau gwledig fynediad at fand eang cyflymach a gwasanaethau digidol newydd:
  • Monitro datblygiad y Cynllun Cymorth Band Eang wrth fynd i’r afael â mynediad sylfaenol at fand eang.
  • Monitro datblygiad y prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru wrth gyflwyno band eang cyflym.
  • Olrhain cynnydd signal ffonau symudol.
Gwella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau gwledig:
  • Nifer y teithwyr ar wasanaethau TrawsCymru.
  • % y gwasanaethau TrawsCymru sy’n cynnig gwasanaeth dibynadwy.
  • Nifer y teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Bwcabus.
  • Adroddiadau gwerthuso ar wasanaethau telefeddygaeth.
  • Adroddiadau gwerthuso ar brosiectau arloesi lleol.
  • Adroddiadau gwerthuso ar safleoedd datblygu.
  • Adroddiadau gwerthuso ar effeithiolrwydd prawfesur polisïau gwledig.