Skip to content

Manteision gweithio i ni

Mae sawl mantais ynghlwm â gweithio i ni, o drefniadau gweithio hyblyg a chyfleoedd hyfforddi i docynnau gofal plant a chynlluniau pensiwn.

Bandiau cyflog

Rydym yn recriwtio ar waelod y band cyflog oni nodir yn wahanol ym Manyleb y Swydd:

  • Band Tîm £17,000 - £20,200
  • Band Rheoli 3  £21,120 - £25,200
  • Band Rheoli 2 £25,700 - £33,200
  • Band Rheoli 1 £34,000 - £42,000
  • Band Gweithredol 2 £44,000 - £54,400
  • Band Gweithredol 1 £54,500 - £66,800

Pensiynau

Byddwch yn cael pensiwn o’r dechrau’n deg. Yn y Gwasanaeth Sifil gallwch ddewis rhwng dau gynllun pensiwn:

  1. Nuvos. Dyma gynllun pensiwn galwedigaethol sydd ar hyn o bryd â chyfradd gyfraniadau sy’n dechrau ar 3.5%, yn seiliedig ar eich cyflog. Fel eich cyflogwr, ni sy’n gyfrifol am dalu gweddill costau’r cynllun.
  2. Cyfrif pensiwn partneriaeth. Mae hwn yn bensiwn budd-ddeiliaid sy’n hawlio cyfraniad gennym ni. Mae’r swm a delir yn seiliedig ar eich oedran. Byddwn yn talu hwn os dewiswch gyfrannu ai peidio. Nid oes raid i chi gyfrannu ond, os gwnewch hynny byddwn hefyd yn rhoi cyfraniad fydd yn cyfateb i’ch cyfraniadau chi, hyd at 3% o’ch enillion pensiynadwy. Mae’r cyfraniadau hyn yn ychwanegol at y cyfraniad sy’n seiliedig ar eich oedran, fel y sonnir uchod.

Hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o staff yn cael manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant.  Rydym yn sefydliad sydd â statws Buddsoddwr mewn Pobl ac felly rydym yn ymroi i roi hyfforddiant ac i ddatblygu'n cyflogeion.  Rydym yn defnyddio safon Buddsoddwyr mewn Pobl fel fframwaith i sicrhau rheolaeth, hyfforddiant a datblygiad o safon.

Gwyliau

Mae gan staff llawnamser hawl i 31 diwrnod o wyliau bob blwyddyn. Mae ganddynt hefyd hawl i 10 o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn. Caiff un o'r dyddiau hyn eu cymryd ar Ben-blwydd y Frenhines ac un yn ystod cyfnod y Nadolig. Caiff staff rhan-amser lwfans gwyliau pro-rata sy'n gymesur â'u patrwm gweithio.

Oriau gweithio hyblyg

Diben oriau gweithio hyblyg yw rhoi rhywfaint o ryddid i'r mwyafrif o staff Llywodraeth Cymru i'w galluogi i geisio cael cydbwysedd da rhwng eu gwaith a'u bywyd y tu allan i'r gwaith.

Mae disgwyl i bob aelod o'r staff fod yn bresennol yn ystod rhan benodol o'r diwrnod (oriau craidd) ond maent yn rhydd i gyrraedd ac i ymadael ar amser o'u dewis o fewn y cyfnodau (fe'u gelwir yn gyfnodau hyblyg) sy'n rhagflaenu'r oriau craidd, cyn belled â bod:

  • effeithiolrwydd cyffredinol y swyddfa yn cael ei gynnal
  • digon o staff ar gael yn ystod y diwrnod gwaith
  • oriau net presenoldeb yn yr hirdymor yn aros yr un fath â'r oriau net sydd wedi'u pennu ar hyn o bryd. Er bod oriau safonol yn hyblyg, mae'n rhaid gweithio'r oriau hyn rhwng 7am a 7pm.

Trefniadau gweithio hyblyg

Rydym yn cynnig ystod eang o wahanol absenoldebau arbennig.  Byddwn yn dal i'ch talu am rai ohonynt.  Byddwn yn penderfynu os ydym am ganiatáu i chi ddefnyddio un o'r opsiynau hyn ai peidio, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.  Byddwn yn trin y ceisiadau mewn dull teg.
Mae menywod sydd wedi cwblhau o leiaf flwyddyn o wasanaeth parhaol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gymwys i gael 26 wythnos o gyfnod mamolaeth gyda chyflog llawn, gyda 13 wythnos o Dâl Cyfnod Mamolaeth Statudol i ddilyn (o 1 Ebrill 2007) ac 13 wythnos ychwanegol o gyfnod mamolaeth di-dal.

Mae cyd-riant sydd â swydd barhaol, neu sydd â swydd sy'n parhau am flwyddyn neu fwy, yn gymwys i gael 15 diwrnod o gyfnod absenoldeb rhiant.  Mae hyn yn ychwanegol at eu hawl i wyliau blynyddol.  Caniateir absenoldeb rhiant ar gyfer mathau eraill o swyddi yn ôl ein disgresiwn.  

Rydym yn cynnig hyd at bum mlynedd o seibiant gyrfa i staff sydd â chyfrifoldebau gofalu ac i staff a fyddai'n hoffi astudio, teithio neu fynd ati i wneud gwaith gwirfoddol ac yn y blaen.

Gallwn ni ystyried cynnig opsiwn i staff weithio yn ystod tymhorau ysgolion yn unig.  Fodd bynnag, nid oes gan y cyflogai hawl i ddewis gweithio yn ystod y tymor.  Rhaid i bob cais a'r effeithiau posibl ar gyflawni'r busnes gael ei ystyried gan y rheolwyr llinell.

Iechyd galwedigaethol

Mae'r gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i'r holl staff.  Prif swyddogaeth y gwasanaeth yw rhoi arweiniad a chyngor ar faterion yn ymwneud â Phresenoldeb, Rheoli, Adsefydlu a salwch sy'n gysylltiedig â'r gwaith

Eich diogelwch personol

Mae diogelwch personol ein staff yn flaenoriaeth inni hefyd a chaiff ei gynnwys yn y materion iechyd a diogelwch ehangach rydym yn eu crybwyll uchod.

Undebau Llafur o fewn Llywodraeth Cymru

Mae tri undeb o fewn ein sefydliad:

  • PCS (Public and Commercial Services) sydd â'r nifer fwyaf o aelodau o fewn y Cynulliad ac mae'n cynrychioli swyddi gweinyddol, gweithredol, swyddi cynorthwyol, swyddi teipio a swyddi ysgrifenyddol
  • IPMS/Prospect sy'n cynrychioli arbenigwyr, gweithwyr proffesiynol a rheolwyr
  • FDA (First Division Association) sy'n cynrychioli uwch weision sifil.

Mae gan yr undebau aelodau sydd wedi'u lleoli yn adeiladau Llywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru, Llundain a hyd yn oed ym Mrwsel.