Aelodau'r Panel
Mae Llywydd y Panel Dyfarnu, Mr J Peter Davies yn berchen ar bractis cyfreithiol yng Nghaerdydd. Mae'n arbenigo mewn ymgyfreitha sifil a masnachol ac, yn fwyaf arbennig, mewn materion rheoliadol. Mae'n Ddirprwy Farnwr Rhanbarth ac yn gadeirydd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Cafodd ei benodi yn Ddyfarnwr Annibynnol i'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru o 1 Mai 2008.
Mae Mr Hywel James yn Farnwr Rhanbarth.
Mae Mrs Helen Cole yn uwchbartner mewn practis cyffredinol yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru ac yn arbenigo mewn achosion di-gynnen i gleientiaid preifat.
Ymgynghorydd peirianneg sifil rhan-amser yw Mr Ian Blair. Bu'n gweithio fel Syrfëwr Sirol gyda Chyngor Sir Powys ac mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n aelod o Fwrdd Llysoedd Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae Ms Juliet Morris Ddadansoddydd Polisi gydag Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol ac yn gweithio ar ei liwt ei hun fel ymchwilydd polisi cymdeithasol i sefydliadau gan gynnwys Cyngor Defnyddwyr Cymru. Mae hefyd yn rhedeg busnes fferm yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Mrs Christine Jones yn un o gyn-aelodau Cyngor Bwrdeistref Siriol Conwy. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Cartrefi Conwy.
Mae'r Cynghorydd Colin Evans yn gyn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn gynghorydd Llafur gyda Chyngor Tref Cwm Aman.
Arferai Ms Kate Berry fod yn Gyfreithwraig a Swyddog Monitro i Gyngor Dinas a Sir Caerdydd. Yn y gorffennol, bu’n gweithio ym maes cyfraith y sector preifat a’r sector cyhoeddus ac arferai fod yn gynghorydd tref yn Nailsworth.
Mae Mr Gwyn Davies yn gyfreithiwr hunangyflogedig. Mae ganddo brofiad o weithio mewn amryw o awdurdodaethau cyfreithiol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’n gyn-Gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Ar hyn o bryd, mae Mr Andrew Bellamy yn Gyfarwyddwr Anweithredol Estyn ac yn adolygydd cymheiriaid gydag Arolygiaeth Iechyd Cymru. Yn y gorffennol, bu’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ar hyn o bryd, mae Mrs Emma Boothroyd yn ddyfarnwr yn gweithio i’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Yn y gorffennol, bu’n gweithio ym maes cyfraith breifat.
Mae Miss Susan Hurds yn aelod lleyg o Dribiwnlysoedd Cyflogaeth Cymru a Lloegr. Yn y gorffennol, bu’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion yn fwyaf diweddar.
