Hafan
Mae brechlyn newydd ar gael a fydd yn diogelu merched a menywod ifanc rhag achos mwyaf cyffredin canserau ceg y groth.
Ym mis Medi 2008 dechreuwyd ar y rhaglen o frechu merched ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol. Bydd y cwrs llawn o dri phigiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2009.
Ym mis Ionawr 2009 dechreuwyd ar ymgyrch dal i fyny ar gyfer menywod ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 1990 a 31 Awst 1991. Bydd eu brechiadau nhw wedi’u cwblhau erbyn mis Awst 2009.
Ym mis Medi 2009, bydd merched sydd ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol cael cynnig y brechiad. Yn ogystal â hynny, bydd ymgyrch dal i fyny ar gyfer merched hŷn a anwyd rhwng 1 Medi 1991 a 31 Awst 1995 yn dechrau.
Ffoniwch linell gymorth Galw Iechyd Cymru ynghylch HPV ar 0845 602 3303 neu ewch i GIG Cymru (dolen allanol)
Dolenni perthnasol
Bydd y rhan fwyaf o ferched cymwys yn derbyn y pigiad rhag Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol.
Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am feirws papiloma dynol (HPV) a'r rhaglen frechu.
