Skip to content

Ymgynghori

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb o ran oed, rhywedd, trawsrywedd, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol – Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru 2007 – 2013

Rydym am gael eich barn ynghylch y materion a godwyd gan yr Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 22/02/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 09/05/2011

Dolenni perthnasol

Mae'r ymgynghoriad hwn ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer y Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007 – 2013 yng Nghymru.

Diben yr Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yw asesu a yw gweithredu'r Rhaglenni'n cael effaith andwyol ar bobl o wahanol grwpiau cydraddoldeb. Mae'r Asesiadau hefyd yn amlygu cyfleoedd i'r Rhaglenni hybu cydraddoldeb ar draws y gwahanol grwpiau cydraddoldeb.

Mae'r Asesiadau wedi canolbwyntio ar y grwpiau cydraddoldeb canlynol:

  • Oed;
  • Rhywedd;
  • Trawsrywedd;
  • Cyfeiriadedd Rhywiol a
  • Chrefydd.

Mae'r Asesiadau yn dilyn ymlaen o'r Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl a gwblhawyd yn 2008.

Sut fyddwn ni’n defnyddio'r Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb?

Byddwn yn defnyddio’r asesiadau yn y ffyrdd canlynol:

  • Darparu cyngor ac arweiniad i ein noddwyr prosiectau, i’w helpu i sicrhau nad yw eu gweithgareddau yn cael effaith andwyol ar bobl o wahanol grwpiau cydraddoldeb,
  • I helpu noddwyr prosiectau i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y gwahanol grwpiau cydraddoldeb,
  • I hysbysu datblygiad unrhyw Rhaglen Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Mae WEFO yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n rheoli'r modd y caiff rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd eu cyflenwi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan WEFO . (Dolen allanol)

Dogfennau ymgynghori