Skip to content

Ymgynghori

Swyddi Gwyrdd i Gymru

Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu cynorthwyo sefydliadau a chyflogwyr yng Nghymru i feddwl am y ffyrdd gorau o wella eu perfformiad amgylcheddol ac i fanteisio ar farchnad newydd sydd ar dwf sef marchnad cynnyrch a gwasanaethau gwyrdd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/11/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 20/02/2009

Bydd eich barn chi ar y cynigion yr ydym yn eu disgrifio yn y ddogfen yn hynod o bwysig i ni a byddant yn ein cynorthwyo ni i sicrhau bod gan y strategaeth derfynol strwythur a'i bod wedi'i thargedu.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn ymateb ac rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ymatebion gan sefydliadau fel mentrau bach, canolig a mawr, sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau, grwpiau cymunedol neu wirfoddol, mentrau cymdeithasol corfforaethol, cwmnïau sydd â diddordeb yn y gymuned a sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Bydd y strategaeth, a gaiff ei llunio ar ôl y broses ymgynghori, yn chwarae rhan bwysig yn helpu Cymru i leihau ei hôl-troed carbon.

Mi wnaeth yr ymgynghoriad hwn gau 20 Chwefror 2009.

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb yn y post.  Y cyfeiriad yw:
Y Tîm Busnesau Cynaliadwy
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Plas Glyndŵr
Ffordd y Brenin
Caerdydd
CF10 3AH

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm dros y ffôn ar 029 2036 8004 neu anfonwch e-bost atynt. Y cyfeiriad yw: businessandenvironment@wales.gsi.gov.uk.