Skip to content

Ymgynghori

Rhaglen Adnewyddu'r Economi: dywedwch fwy wrthym

Adolygiad pwysig o’r agwedd at ddatblygu economaidd yw Rhaglen Adnewyddu’r Economi, a’r modd y gallwn leoli ein heconomi ar gyfer y dyfodol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 16/02/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 11/05/2010

Mae’r dirwasgiad byd-eang wedi creu newidiadau pellgyrhaeddol a sylfaenol yn yr amgylchedd ariannol ac economaidd ac wedi atgyfnerthu a dwysau llawer o’r heriau hirdymor sydd eisoes yn bodoli.  

Ein nod, trwy’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi, fydd gosod Cymru mewn gwell sefyllfa i wynebu’r heriau hirdymor hynny.

Materion allweddol yn yr ymgynghoriad hwn

  • Dadansoddiad o economi Cymru ar hyn o bryd
  • Gweledigaeth ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol
  • Swyddogaeth y Llywodraeth yn economi Cymru
  • Cymorth uniongyrchol i fusnesau
  • Creu’r amodau iawn ar gyfer busnesau
  • Denu busnesau i Gymru
  • Nodweddion rhanbarthol unigryw

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad 'Dywedwch Fwy Wrthym', a gynhaliwyd o fis Chwefror tan fis Mai 2010, wedi helpu i ddatblygu'r ddogfen 'Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd'.

Ers i bolisi Adnewyddu'r Economi gael ei lansio ym mis Gorffennaf, mae'r gwaith wedi mynd yn ei flaen yn gyflym i'w weithredu ac erbyn hyn rydym yn cyhoeddi'r ymatebion unigol a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad. Mae hyn yn atodol i'r crynodeb o'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn.