Skip to content

Ymgynghori

Strategaeth Tlodi Plant Cymru a'r Cynllun Cyflawni

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynghylch y Strategaeth Tlodi Plant newydd ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 12/05/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 12/08/2010

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru a gwella canlyniadau i blant a rhieni sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae'r Cynllun Cyflawni yn gosod y camau polisi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i wireddu'r weledigaeth hon.

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a ddaeth yn gyfraith ym mis Chwefror 2010, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i leihau tlodi plant ac adolygu'r strategaeth honno'n gyson. Mae'r Strategaeth Tlodi Plant newydd a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig yn bodloni'r ymrwymiad hwn ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae tair dogfen ichi eu hystyried:

  • Mae Rhan 1 yn crynhoi'r Strategaeth Tlodi Plant a'r Cynllun Cyflawni ac mae'n cynnwys y cwestiynau yr hoffem ichi'u hystyried yn rhan o'r ymgynghoriad.
  • Rhan 2 yw'r Strategaeth Tlodi Plant.
  • Rhan 3 yw Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Tlodi Plant.

Y fersiwn i Blant a Phobl Ifanc

Rydyn ni hefyd wedi paratoi fersiwn i blant a phobl ifanc o'r Strategaeth Tlodi Plant a'r Cynllun Cyflawni. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau penodol gyda phlant a phobl ifanc er mwyn cael clywed eu barn ynghylch y Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni a sut y gellir eu gwella.