Skip to content

Ymgynghori

Confensiwn Yr Hag 1996 - Ymdrin ag achosion amddiffyn plant trawsffiniol: canllaw “camau allweddol” i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng nghymru

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar ganllawiau drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/07/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 07/10/2011

Byd yn helpu Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i roi Confensiwn yr Hag 1996 ar waith.

Mae’r Confensiwn yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau sifil trawswladol ar gyfer amddiffyn plant.  Gall y gwledydd sy’n aelodau o’r Confensiwn ofyn i awdurdodau mewn gwledydd eraill wneud y canlynol:

  • darparu cymorth i ddod o hyd i blentyn y mae pryderon ynghylch ei ddiogelwch;
  • rhoi mesurau diogelu ar waith;   
  • darparu adroddiadau ar sefyllfa’r plentyn.