Skip to content

Ymgynghori

Deddf Plant 2002 Canlyniadau Cyfraith Achosion yn Dilyn Penderfyniad gan y Llys Apêl yn yr achos Parthed A (Plentyn) [2009] EWCA 41

Canllawiau arfaethedig ar ddefnyddio paragraff 19(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â lleoli plentyn gyda pherthnasau dramor cyn iddo gael ei fabwysiadu.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 02/07/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 02/09/2010

Ymgynghoriad yw hwn ar ganllawiau statudol drafft i helpu awdurdodau lleol sy’n bwriadu lleoli plentyn, sy’n destun gorchymyn gofal interim neu orchymyn gofal terfynol, dramor,

  • a hynny gyda pherthnasau neu 
  •  bobl sydd â chysylltiadau agos

ag ef sy’n cael eu hystyried fel mabwysiadwyr posibl er nad yw’r awdurdod wedi penderfynu eto ar leoli’r plentyn i’w fabwysiadu.

Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin yn benodol â cheisiadau i’r llys o dan baragraff 19(1) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.