Skip to content

Ymgynghori

Strategaeth Amgueddfeydd Cymru - Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y strategaeth gyntaf erioed ar gyfer Amgueddfeydd yng Nghymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 01/07/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 23/10/2009

Yn y strategaeth ceir tair egwyddor allweddol ar gyfer amgueddfeydd:

Amgueddfeydd i bawb

Mae amgueddfeydd yn cyfrannu at gymunedau byw, yn hyrwyddo gwerthoedd cymdeithas deg a chyfiawn ac yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.

Casgliad i'r genedl

Mae gan amgueddfeydd gasgliadau sy'n dangos ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol ar gyfer y genedl a byddant yn parhau i'w datblygu.

Gweithio'n Effeithiol

Bydd amgueddfeydd yn rheoli eu safleoedd, eu gweithrediadau, eu casgliadau a phobl yn effeithiol er mwyn darparu gwasanaethau perthnasol, cadarn a chynaliadwy ar gyfer dinasyddion y wlad.

Ym mhob pennod, amlinellir y materion cysylltiedig a thynnir sylw at y camau y gellir eu cymryd er mwyn gwella'r gwasanaethau y mae amgueddfeydd yn eu cynnig i drigolion Cymru ac ar gyfer y rhai sy'n ymweld â hwy.