Skip to content

Ymgynghori

Dysgu i blant a phobl ifanc mewn dalfeydd pobl ifanc yng Nghymru - canllawiau statudol

Diben yr ymgynghoriad hwn yw rhoi gwybodaeth a cheisio safbwyntiau am y ddeddfwriaeth newydd Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, adran 48 – 52. Mae’n ymwneud ag addysgu a hyfforddi plant a phobl ifanc o Gymru yn y ddalfa.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 19/07/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 15/10/2010

Prif bwrpas y darpariaethau hyn yn y Ddeddf yw adlewyrchu cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, y ddarpariaeth addysgu ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gymuned mewn ysgolion prif ffrwd.

Rydym yn awyddus i gael eich barn am y canllawiau hyn oherwydd mae’n anorfod fod cefnogi addysg grŵp o blant a phobl ifanc o:

  • oedran gwahanol,
  • anghenion amrywiol, ac
  • o fewn cyfyngiadau amgylchedd dalfa,

yn heriol iawn. Rydym yn cydnabod hyn.  Rydym am sicrhau fod dysgu yn y ddalfa mor debyg â phosibl i ddysgu yn y sector prif ffrwd, ac ar yr un pryd teilwra’r addysg i fodloni anghenion y grŵp penodol hwn o blant a phobl ifanc.