Skip to content

Ymgynghori

Papur Gwyn: Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am safbwyntiau ynghylch cynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud ag ysgolion.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 10/10/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 05/01/2012

Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaed datganiad gan y Prif Weinidog ynghylch Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw cyhoeddodd y byddai Bil Addysg yn 2012.

Mae'r Papur Gwyn hwn yn gofyn am safbwyntiau ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).  

Rydym yn cynnig deddfu yn y meysydd canlynol:

  • ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder
  • canllawiau ar wella ysgolion
  • trefniadaeth ysgolion
  • Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
  • cyfarfodydd blynyddol â'r rhieni
  • dysgwyr ôl-16 ag anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion
  • brecwast am ddim mewn ysgolion
  • cwnsela mewn ysgolion
  • codi taliadau hyblyg am brydau ysgol.

A fyddech cystal â defnyddio'r holiadur isod i gyflwyno'ch sylwadau.

Mae fersiynau o'r ddogfen hon ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc isod.